BBC Home
Explore the BBC
BBC Trust

Ynglŷn ag ymddiriedolaeth y BBC.

Ymddiriedolaeth y BBC yw corff sofran y BBC. Mae'n sicrhau y caiff y BBC ei redeg er budd y cyhoedd; mae'n stiwardio arian cyhoeddus yn drylwyr; ac mae'n amddiffyn annibyniaeth y BBC.


Cynghorau Cynulleidfa

Mae Ymddiriedolaeth y BBC yn cydweithio'n agos gyda Chynghorau Cynulleidfa yn Lloegr, Gogledd Iwerddon, Yr Alban a Chymru. Mae’r cynghorau yma yn helpu Ymddiriedolaeth y BBC i ddeall safbwyntiau, anghenion a phryderon cynulleidfaoedd.

Cynghorau

Mae pedwar Cyngor, yn cwmpasu Cymru, Lloegr, yr Alban, a Gogledd Iwerddon. Aelod o Ymddiriedolaeth y BBC ar gyfer y wlad honno yw cadeirydd pob cyngor. Rôl y Cynghorau yw sicrhau bod amrywiaeth eang o safbwyntiau talwyr ffi'r drwydded yn dylanwadu ar waith yr Ymddiriedolaeth.

Cysylltiadau â'r gymuned

Mae gan y Cynghorau gysylltiadau â llawer o gymunedau gwahanol yn eu gwledydd ac maent yn trefnu rhaglenni allgymorth a gweithgareddau eraill sy'n eu galluogi i gynghori'r Ymddiriedolaeth ar ba mor dda y mae'r BBC yn hybu ei Bwrpasau Cyhoeddus, a pha mor dda y mae'n gwasanaethu talwyr ffi'r drwydded mewn gwahanol rannau o'r DU.

Rôl ymgynghorol

Mae gan y Cynghorau'r hawl o dan y Siarter a'r Cytundeb i ymgynghori ar amrywiaeth o faterion gan gynnwys adolygiadau o drwyddedau gwasanaeth ac unrhyw gynnig sy'n gofyn am brawf gwerth cyhoeddus.

Aelodaeth

Mae gan gynghorau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon 12 aelod yr un, gan gynnwys y Cadeirydd. Mae Cyngor Lloegr yn fwy gan ei fod yn cael ei ategu gan rwydwaith o Gynghorau Cynulleidfa Rhanbarthol, un ar gyfer pob rhanbarth darlledu yn Lloegr. Mae Cadeirydd pob Cyngor Rhanbarthol yn aelod o Gyngor Cynulleidfa Lloegr.

Mae aelodau o'r Cyngor yn cael eu recriwtio er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchu amrywiaeth y DU, bod ganddynt gysylltiadau â chymunedau, a'u bod yn gallu ffurfio barn ar sut y dylid hybu Dibenion Cyhoeddus.

Cylch gwaith

Gellir dod o hyd i gylch gwaith ffurfiol y Cynghorau Cynulleidfa yn y Siarter a'r Cytundeb.

Protocol

Mae Protocol y Cynghorau Cynulleidfa sy'n rhoi manylion llawn am y Cynghorau a'u cyfansoddiad ar gael ar y dudalen Atebolrwydd.

Brig