Cofnod diweddaraf
Blwyddyn newydd, a lot o fandiau newydd!
- 07/01/2009, 16:14
Helo bawb!
Blwyddyn newydd dda, llond y ty o ffa - blwyddyn newydd ddrwg, llond y ty o fwg... a'i dyna'r dywediad cywir? On i'n siarad am hyn efo Magi ar y rhaglen neithiwr - pam fod cael llond ty o ffa yn flwyddyn newydd dda? Mi faswn i'n casau cael llond ty o ffa - cael dan draed a mewn i bob twll a chornel, a mi faswn i'n eu ffeindio am flynyddoedd wedyn wedi eu stwffio lawr gefn y soffa a ballu!
P'run bynnag, mae 2009 yn argoeli i fod yn flwyddyn wych arall o fandiau newydd cyffrous yma yng Nghymru. Artist Gwyliwch y Gofod cyntaf 2009 oedd Mark Back - canwr-gyfansoddwr ifanc o Gaernarfon, sydd a chaneuon acwstig neis ar ei broffeil myspace. Ewch i adran Gwyliwch y Gofod i ddarganfod mwy!
Na'i ddim dweud gormod, ond mi alla'i addo bod bandiau newydd gwych ar y ffordd dros yr wythnosau nesaf - dwi'n edrych ymlaen yn arbennig i roi sylw i gerddor sy'n byw yn Llundain ar hyn o bryd, ond yn dal i gyfansoddi a recordio caneuon Cymraeg - stwff da iawn.
Dyna ni am y tro, ond cofiwch - os yda chi mewn band newydd sy'n awyddus i gael sylw yn y slot Gwyliwch y Gofod yna cysylltwch a ni trwy e-bostio c2@bbc.co.uk.
Hwyl,

Cofnodion diweddar
Lle gai pic'n'mics fi nawr???....
- 07/01/2009, 15:48
Hei,
Blwyffyn newyff ffa i chi gyd!
2009... gosh - nag yw amser yn hedfan? Serch yr holl adroddiade' negyddol yn y papure bo'r flwyddyn yma'n mynd i fod yn ofnadwy gyda'r wasgfa ariannol a bygythiad y dirwasgiad - fi'n mynd i drio aros yn bositif. Fi wastad di bod yn sgint felly all pethe ddim mynd lot gwaeth eleni. Ma fy ngwydryn i yn mynd i fod yn hanner llawn yn ystod 2009...
Ond ar ôl dweud hwna fi bach yn gutted bo Woolworths wedi cau. Woolies oedd calon tref Ponty'. Dyna lle o ni gyd y cwrdd ar b'nawn Sadwrn. Dyna lle o ni'n mynd i brynu sengle bob wythnos. O fi'n cal £2 arian poced a bob wythnos o ni'n prynu un sengl ac yn defyddio'r gweddill i brynu pic'n'mics. Yr wye wedi ffrio odd fy hoff pic'n'mics. Reina a'r cola-bottles gyda sigwr arnyn nhw. Ahhh - dyddie syml, dyddie da.
Son am losin, fi a Wisey ar y ffordd i westy yn y Fro i gwrdd â Richard Hughes sy'n hyfforddwr personol i Girls Aloud, Michael Flatley a thîm rygbi y Gleision. Nes i anghofio bo ni'n mydn i weld e - a fi'n gwisgo ffrog sy'n neud fi edrych fel bo fi ar fin cal babi. Ond dydw i ddim yn mynd i gael babi. Fi just yn dew. Ond fi ddim yn mynd i boeni. Ma fy ngwydryn o coca-cola (full-fat) yn hanner llawn....
Chin chin

Canu Plygain
- 07/01/2009, 11:18
Helo eto!
Nos Wener Ionawr 16, dwi'n mynd draw i eglwys Llanfair Yn Ngwynfa i recordio noson Plygain go arbennig. Yn canu fydd 9 Bach, Gareth Bonello, Lleuwen Steffan, Katell Keineg a Brigyn. Mi fydda nhw'n ail-ddehonglio hen ganeuon y Plygain felly fe ddylai fod yn noson ddifyr iawn.
Mae'n syniad gafodd Rhys Mwyn ar ol bod yn gweld Plygain traddodiadol hefo'r canwr Jeb Loy Nichols, a Jeb yn cymharu'r profiad hefo canu appalachian. Ges i'r hanes yna gan Rhys ar un o'n teithia o gwmpas Cymru yn recordio'r gyfres dwetha o raglen Rhys ar C2, a meddwl bysa'n gwneud prosiect bach difyr i Radio Cymru.
Mae popeth yn dechrau am 7pm, ac mae mynediad am ddim, felly dewch draw!
Ron Asheton o'r Stooges
- 07/01/2009, 09:41
Newyddion trist iawn i ffans y Stooges. Bydd Lisa'n chwarae trac ar y rhaglen nos Iau - oes gan unrhywun awgrymiadau am drac y dyle ni chwarae?
Caneuon newydd Y Llongau
- 06/01/2009, 16:42
Helo bobol
Dwi wrthi'n gwrando ar sesiwn newydd Llongau i raglen Lisa, ac mae'n hollol wych. Llongau ydy prosiect newydd (ish) Dyl Mei, ac mi ddylwn i ddeud yn syth mod i wedi gweithio lot hefo Dyl yn ddiweddar felly mae'n bosib nad ydw i'n gwbl ddi-duedd OND mae'r caneuon yn gret. Fel sa chi'n ei ddisgwyl mae'r cynhyrchu yn anhygoel - ma na ambell i foment gwirioneddol epig ar y caneuon, ond yn ddifyr iawn ma na hefyd adega lle ma'r geiria falla'n dangos ochr mwy bregus, emosiynol i Mr Dyl Mei. Ma na swn eitha llawn i'r caneuon - samples llinynnol, gitars, piano ayyb, ond does dim o ochr bombastic y Genod Droog yn fama - mae'n swnio'n llawer mwy didwyll. Dwi'n ama cewch eich synnu, a'ch siomi ar yr ochr ora.
Mi fydd y sesiwn ar raglen Lisa nos Wener nesa, Ionawr 16.
Hwyl
Gar
Vinyl 7 modfedd
- 05/01/2009, 11:44
Gyrru 'demos' at raglen Lisa
- 05/01/2009, 10:06
Blwyddyn newydd dda bobol!
Diwrnod cynta nol yn y gwaith, a'r peth cynta dwi angen ei wneud ydy gweld pwy sydd wedi bod yn gwneud be dros y gwylia - oes na unrhyw fandia wedi bod yn recordio, trefnu gigs neu unrhywbeth arall difyr. Dwi di gyrru ebost i ryw ddwsin o fandiau, felly gawn ni weld be ddaw yn ol...
Dwi hefyd yn awyddus iawn i glywed gan fandiau newydd, felly os da chi mewn grwp o unrhyw fath, bysa'n gret cael unrhyw draciau newydd. Mi fedrwch chi yrru mp3 ata i ar ebost neu yrru CD at Gareth Iwan Jones, BBC Radio Cymru, Bryn Meirion, Bangor, LL57 2BY. Dwi hefyd ar myspace
Felly gyrrwch eich caneuon asap!!!
Ar raglen Lisa nos Iau, dwi'n trio trefnu sgwrs am noson Kino Ankst sy'n digwydd nos Wener yn Galeri.
Cofion
Gar
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol
Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.
Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

