- Vaughan Roderick
- 7/01/2009, 19:26
Ydych chi'n cofio "melltith Lembit"- y ffenomena sy'n sicrhâi dinistr i unrhyw un neu unrhyw beth y mae aelod Maldwyn yn cefnogi. Charles Kennedy, Mark Oaten, Jenny Randerson, Sian Lloyd, ymgyrch y dyn ei hun dros lywyddiaeth ei blaid, mae pob un wedi dioddef o'r felltith.
Ychydig wythnosau yn ôl cyhoeddodd Lembit ei fod am 'sgwennu colofn wythnosol i'r "Daily Sport". Mater o amser oedd hi cyn i'r stori yma ymddangos yn y Telegraph.
"Sport Media Group, the publisher of the Daily Sport and Sunday Sport newspapers, is looking at a debt for equity swap and other sources of new financing, after breaching one its banking covenants."
O diar.
- Vaughan Roderick
- 7/01/2009, 11:09
Dydw i erioed wedi deall pam fod paentio'r bont ar draws Afon Forth yn gymaint o jobyn. Efallai mai un dyn bach yn defnyddio brws sâl sy'n gyfrifol am y dasg! Ta waith, yn ôl y chwedl yr eiliad mae'r gwaith wedi ei gwblhau mae angen dechrau eto.
Rhaglenni noson etholiad yw'r peth agosaf i'r bont ddiarhebol ym myd darlledu. Yr eiliad mae un yn dod i ben mae'n rhaid dechrau ar y nesaf. Y pethau anoddaf a mwyaf pwysig yw sicrhâi bod y meddalwedd ar gyfer cyflwyno'r canlyniadau yn gweithio'n effeithiol a dewis y llefydd i osod yr unedau darlledu allanol. Dydyn ni ddim yn gwneud y dewisiadau cywir bob tro. Fe wnaethon ni golli canlyniad Ceredigion yn 2005, er enghraifft.
Mae dewisi yn gywir ar gyfer yr etholiad cyffredinol nesaf yn arbennig o anodd. Mae ambell i sedd yn amlwg. Does dim angen bod yn athrylith i wybod bod yn rhaid bod yn bresennol yn Aberconwy, Maldwyn a Gorllewin Caerfyrddin!
Y tu hwnt i'r rhai amlwg mae'n fwy anodd. Mae'n ymddangos y bydd yr etholiad cyffredinol nesaf yn un eithaf hen ffasiwn. Yr economi, mae'n debyg, fydd maes y gad gyda gwahaniaethau polisi amlwg a sylfaenol rhwng Llafur a'r Ceidwadwyr. Os felly fe fydd yn wahanol iawn i unrhyw etholiad yn ystod y chwarter canrif diwethaf ac mae'n bosib y bydd 'na wasgfa ar y pleidiau llai.
Os ydy hynny'n digwydd (ac mae'n "os" go fawr) fe fydd yn rhaid i ni ychwanegu llwyth o seddi newydd at y rhestr or etholaethau gwledig ecsentrig sydd wedi hawlio'n sylw yn ystod etholiadau diweddar. Fe fyddwn yn ôl ar y tir lle ymladdwyd etholiadau'r chwedegau a'r saithdegau- etholaethau trefol a dinesig ymylol fel Gogledd Caerdydd, Gorllewin Casnewydd a Bro Morgannwg. Mae hynny'n creu problem i ni.
Gan amlaf mae adnoddau yn cyfyngu'r nifer o ddarllediadau allanol i rhyw ddwsin. Y tro hwn mae'n ddigon hawdd llunio rhestr o ugain neu fwy o etholaethau diddorol. Mae hynny'n nifer rhyfeddol o fawr yng nghyd-destun hanes gwleidyddol Cymru. Byswn yn tybio bod yn rhai mynd yn ôl i ddauddegau'r ganrif ddiwethaf i ganfod cymaint o etholaethau gwerth eu gwylio. Dyma fy neg uchaf i- fe fyddaf yn sgwennu'n fanwl am bob un o nhw rhwng nawr a'r etholiad.
Aberconwy
Gogledd Caerdydd
Ceredigion
Bro Morgannwg
Arfon
Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro
Dyffryn Clwyd
Ynys Môn
Maldwyn
Pen-y-bont
Mae croeso i chi anghytuno. Beth am Frycheiniog a Maesyfed, Llanelli a Gorllewin Abertawe? Oes gobaith gan Lafur ad-ennill Gorllewin Clwyd? Roedd De Clwyd a Gŵyr yn ymylol yn etholiad y cynulliad- ydy'r un peth yn wir mewn etholiad cyffredinol? Mae 'na ddigon i drafod!
- Vaughan Roderick
- 6/01/2009, 22:09
Rwy'n teimlo bod 'na drafodaeth dda a phwysig (efallai) wedi codi ynghylch cywirdeb iaith. Dw i am wneud rhywbeth anarferol trwy ail-gyhoeddi'r post a'r sylwadau a'ch croesawi i wneud sylwad. Diawl, weithiau mae ychydig bach o ddiogi yn talu o safbwynt cael ymateb!
Dyma'r post gwreiddiol.
Dydw i ddim yn cyhoeddi pob un o'r sylwadau sy'n cael eu postio ar y blog yma. Weithiau mae nhw'n anghymwys, weithiau mae nhw'n bersonol.
Ddoe fe dderbyniais un sylwad (caredig, dw i'n meddwl) gyda chais i beidio cyhoeddi. Gan barchu hynny, ac heb ei ddyfynnu, mae'n codi pwynt hynod ddiddorol. Hanfod y sylwad oedd bod 'na nifer o wallau gramadegol yn y post "Hen Hanes". Dydw i ddim am wastraffu amser yn anghytuno a'r cyweiriadau. Dyw post bach diog o gartref ddim cweit mor drylwyr ac erthyglau o'r gwaith!
Ond mae'n codi cwestiwn diddorol. Cwestiwn "mas a gras" os liciwch chi. Mae emynau Pantycelyn yn gyson yn defnyddio "mas" a "gras" fel geiriau sy'n odli. Mae'r llyfrau emynau ar y llaw arall yn gyson yn troi'r "mas" yn "maes" gan golli'r odl. Mae'r cywirdeb ieithyddol yn lladd y farddoniaeth.
Wrth gychwyn y blog 'ma fe wnes i benderfynu defnyddio Cymraeg ychydig yn wahanol i'r iaith y byswn yn defnyddio wrth 'sgwennu erthyglau newyddion- sef rhyw fath o fersiwn ysgrifenedig o'r iaith dw i'n ei siarad yn ddyddiol. "Dw i" yn lle "rwyf" neu " mi ydwyf", "mas" yn lle "allan", "cryts" yn lle "bechgyn", "taw" yn lle "mai" ac yn y blaen.
Mae'r rheiny efallai yn wallau ieithyddol -os ydych chi'n feistr at y Cywiriadur Cymraeg- ond mae'r gwallau hynny'n ran o ymgais i ddod o hyd i ffordd o sgwennu sy'n ddarllenadwy i bobol nad ydynt gan amlaf yn darllen Cymraeg.
Mae'r "stat-porn"ynghylch nifer darllenwyr y blog yma'n awgrymu rhyw faint o lwyddiant. Mae'r adwy rhwng y nifer o bobol sy'n medru siarad Cymraeg a'r nifer sy'n gallu ei darllen yn broblem ddifrifol. Mae 'na angen ddybryd i greu Cymraeg ysgrifenedig sy'n ddealladwy i siaradwyr Cymraeg yn hytrach nac iaith sy'n eiddo i gwlt o ramadegwyr.
Mae 'na beryglon wrth gwrs. Mae safonau gramadegol yn bwysig. Ond mae'n beryglus hefyd i ddyrchafu'r Gymraeg i fod yn iaith sy'n eiddo i'r ychydig sy'n gallu ei sgwennu mewn modd clasurol gywir Ydy ni'n credu, mewn gwirionedd, bod sefyllfa'r Gymraeg mor gryf nes ei bod yn gallu fforddio bod yn llai hyblyg na'r Saesneg?
Os oedd "mas" yn ddigon da i Bantycelyn mae'n ddigon da i fi.
Vaughan
Dyma'r sylwadau.
Fyddwn i ddim yn poeni'n ormodol.'Dwi'n blogio'n rheolaidd a 'dwi'n defnyddio dull 'sgwennu sy'n gyfaddawd rhwng fy iaith lafar a fy iaith ysgrifenedig.Dyna ti'n ei wneud - ac yn fy marn bach i, dyna'r ffordd briodol i flogio.
Blogmenai
Cytuno'n llwyr bod angen i'r Gymraeg fod yn hyblyg - mewn gwirionedd mae'n fy mhoeni i yn fwy i weld gwallau gramadegol syml fel diffyg atalnod llawn a ballu, na ffurfiau tafodieithol. Eto i gyd, wrth gwrs, mae angen rheolau - ac er ei bod yn wir i ddweud mai ychydig gannoedd ohonom ni sy'n cyrraedd unrhyw safon ac yn gwbl hyderus gyda'r iaith ysgrifenedig, y peth pwysica' ydy ein bod ni'n trafod ac yn dadlau am y pethau 'ma yn agored. Neu fel arall sut ydyn ni i fod i ddysgu?
Iesgob Annwyl
Posib dweud mwy am yr ystadegau Vaughan? Ffigyrau?
Dewi
(Ateb;Dydw i ddim yn y gwaith ar hyn o bryd ond fe wnai)
Am eich bod chi wedi dewis codi'r pwynt yn gyhoeddus, buasai'n well gen i pe tasech chi wedi trafod yr union bwyntiau a godais innau. Dan yr amgylchiadau hyn, fyddai dim ots gen i pe bai'r sylwad o'r blaen yn cael ei gyhoeddi. Eto, does dim ots gen i 'chwaith os penderfynwch y dylai'r drafodaeth ddod i ben fan hyn.
Fyddwn i ddim yn dychwelyd at y pwynt, oni bai eich bod chi wedi cam-ddehongli fy neges gynt ryw ychydig.
Nid "mas" vs "maes" (neu "ma's") oedd dan sylw o gwbl gen i. Sylwch na soniais i o gwbl am eich defnydd o "ochor", "pobol", "Dadlau... [y] mae Huw Lewis", "...yn weithred [ ]wleidyddol" a.y.b.. Nid y "tafodiaethol" vs y "clasurol" oedd gen i mewn golwg, ond *cywirdeb" (fel dw i'n ei weld).
Tri phwynt gramadegol a godais innau yn fy neges, os cofiaf yn iawn (yn ogystal â rhai manion dibwys ynghylch atalnodi ac ati - manion na ddylwn fod wedi eu crybwyll mewn gwirionedd). Yr unig bwyntiau y soniais amdanynt oedd y rhai a wnaeth y gwaith o ddarllen yn anos imi, sef:
i) y dryswch yn eich blog rhwng ffurfiau berfol unigol a lluosog. Mae hyn i'w weld eto yn y blog diweddaraf: "Ydy [sic] ni'n credu" yn lle "Ydyn ni'n credu" (sylwer, nid wy'n mynnu taw "ydym ni" gydag "-m" sydd i'w ddefnyddio yma).
Mae'n wir taw gwall teipio yw hwn yn fwy na thebyg, ond mae'n anffodus iawn fod y gwall penodol hwn yn un sy'n lledu ar dudalennau BBC Cymru'r Byd, a dylid gofalu rhag ofn i'r defnydd "swyddogol" yma ei droi yn ffurf 'dderbyniol'.
ii) Diffyg treiglad meddal mewn berf ar flaen cymal negyddol: "Gwnaeth ychydig ddyddiau fawr o wahaniaeth" yn lle "Wnaeth..." (pwynt bach iawn, mae'n wir, sy'n hawdd ei anghofio wrth ysgrifennu ar frys, ond mae'r treigladau yn bwysig o hyd).
iii) nid "mai" vs "taw" oedd fy mhwynt i (rydw i, fel un o Sir Gâr, yn hollol o blaid "taw"!), ond "mai" vs "mae" mewn cymalau perthynol.
Rydym ni'n hollol gytûn y dylid defnyddio "Cymraeg ysgrifenedig ... dealladwy", a hefyd rwy'n cytuno fod hyblygrwydd y Saesneg yn beth da. Mae'r BBC Saesneg yn lle gwych i glywed - ac i ddarllen - trafodaethau am gywirdeb ac esblygiad ieithyddol. Eto, mae byd o wahaniaeth rhwng sefyllfaoedd y ddwy iaith.
Efallai y dylwn ychwanegu fy mod i'n parchu'ch gwaith chi yn fawr iawn - a hefyd waith William Williams, er na fyddwn i'n mynd â'r gymhariaeth yn rhy bell (^^), ac - ie - roedd y neges i fod yn "garedig"! 'Mond dadlau er mwyn y ddadl, efallai - ond mae'n ddadl bwysig.
Diolch ichi. Rwy'n gobeithio fod hyn wedi egluro fy marn ryw ychydig.
(Gan ymddiheuro am unrhyw wallau teipio yn y neges frysiog yma!)
Pedant Iaith
Cytuno'n llwyr. Mae sawl cywair i iaith a does dim mor chwithig ag arddull lenyddol yn cael ei gwthio ar drafodaethau anffurfiol. Ac os nad yw'r bobl yr anelir atyn nhw'n deall yr hyn sy'n cael ei ddweud neu'i ysgrifennu mewn unrhyw iaith mae'r awdur wedi methu. Byddai'n well iddo fo neu hi ganolbwyntio ar weu.Ond, i hollti blew ac i ddangos y gallaf innau fod yn bedant hefyd, mae 'sicrhâi' yn codi fy ngwrychyn. 'Sicrhau' yw'r sillafiad cywir. Mae hwn yn gwestiwn sy'n codi ei ben yn aml yn y Gymraeg. Rydw i'n credu taw diffyg siaradwr "cyffredin" yw rhan o'r broblem. Mae yna lwyth o bobl sy'n mynnu ar ddefnyddio iaith gor-ffurfiol ac mae yna lwyth sy'n mynnu ar ddefnyddio iaith gor-dafodieithol. Ond does yna uffern o lawer ohonom sy'n bodoli yn y canol. Felly mae'n anodd dod o hyd iaith gyffredin, anodd dod o hyd diffiniad o beth yw'r fath beth.
Ar fy rhan i, rydw i'n anelu at ddefnyddio iaith Wlpanaidd gyda sillafu cywir. Yn fy marn i, does pwynt i sillafu gair yn "anghywir" er mwyn gweddu ei ynganiad. Megis "falle" yn lle nag "efallai" -- gellir ynganu gair yn ôl pa bynnag awydd ond does angen ei sillafu'n wahanol. Oherwydd mae'n achosi drysu -- yn enwedig ymhlith ni dysgwyr annwyl. Allem ni ddim canfod y gair yn ein geiriaduron. A dyna ddylai fod yn amcan ryw iaith gyffredin -- bod yn ddealladwy i gynifer â phosib. Ar y cyfan rydw i'n credu eich bod yn llwyddo yma.
Chris
Fel ddwedais i fe wnes i gymryd y post fel un caredig. Efallai bod 'na werth i fi nodi un peth. Er bod y blog yma'n ymddangos ar wefan y BBC, fi, a fi'n unig, sy'n gyfrifol am y cynnwys. Mae 'na fanteision ac anfanteision yn hynny ond does na ddim "staff" enfawr yn gofalu am y cynnwys. Y gwir amdani yw fy mod yn tueddu bod yn weddol llipa o safbwynt cywirdeb ieithyddol wrth flogio yn fy amser hamdden.
Vaughan
O Chris, gwir pob gair. Pam ar y ddaear y mae pobol yn mynnu bod "Mae nhw" yn anghywir a "maen nhw" yn gywir ac eithrio bod Syr John Morris Jones wedi penderfynu hynny ar fympwy? Fe fydd rhyw un yn cynnig esboniad!
Vaughan
Mae "nhw" yn rhagenw personol, ac maen nhw (a ni) yn dilyn y rheol sillafu yma er mwyn i eraill fedru deall ein brawddegau.
Yn hanesyddol, siwr iawn, y rheswm dros y gwahaniaeth yma yw bod "maen nhw" yn deillio o "maent (hwy)", a'r terfyniad berfol yn "-t" yno yn glir. Wrth golli'r "-t" ar lafar (ac mewn cyweiriau llai ffurfiol) mae angen cadw'r "-n" er mwyn gwahaniaethu.
Arfer a chonfensiwn yw'r cyfan, wrth gwrs, megis pob rheol iaith. Ond mae rheolau o'r fath yn bwysig, a hebddi nw byzhe ny miwn tipun o bucyl ac yn ool yn y kanol oesoet nev rywbet! :)
Pedant Iaith
Hmm.. Dyma gwestiwn caled. Rwyf i yn 'pedantic' eithradol yn y Saesneg, ond mae gramadeg fy Nghymraeg yn wael iawn.. ac yn mynd yn waeth.
Trici iawn...
Beddgelert
Diawl, mi wyt ti'n dda!
Vaughan
Mae datblygiad iaith yn ddeinamig. Buaswn wrth fy modd yn darllen blogs Vaughan yn iaith tects....P9n 'ma, neu dros y Pen8nos.....
Dewi
Pedant - ti'n codi nifer o bwyntiau da a dwi mewn parchedig ofn o dy allu i ddeall gramadeg. Ond, gan gymryd fod gwahaniaeth rhwng 'Maen nhw' a 'Mae nhw' tydw i heb gam-ddeall beth sydd gan Vaughan neu eraill dal sylw. Mae'r un peth yn wir am 'Ydyn nhw' (yn hytrach na'r anghywir 'ydy nhw'). Mae'n rhaid cael safon ond onid y cwestiwn a yw'n amser i ni newid beth yw'r safonnau hynny. Os nad ydy pobl yn cael trafferth deall fod Mae nhw yn cyfleu mae'n nhw, yna oni ddweud mai 'mae nhw' / ydy nhw' sy'n yw'r ffurf safonnol bellach? Iesgob, os nad ydy Vaughan ac eraill methu sgwennu Cymraeg cywir, yna pwy ddiawl sydd? Efallai ei bod yn amser symleiddio pethau? Pwynt Chris Cope yn un da - doeddwn i hwb feddwl am beth o'r safbwynt honno o'r blaen.
D.enw
- Vaughan Roderick
- 6/01/2009, 15:32
Pam mae pawb yn credu fy mod i'n dymuno cael llyfrau fel anrhegion Nadolig? Efallai byswn wedi hoffi Nintendo Wii neu iPod- beth bynnag yw'r rheiny. Efallai bod pobol yn credu fy mod yn gallu hawlio am bethau fel 'na ar "dreuliau"! Sori, dydw i ddim yn aelod cynulliad Ceidwadol!
Ta beth, fe ddaeth y stoc arferol o lyfrau ac erbyn hyn dw i wedi cael cyfle i bori trwy'r rhan fwyaf ohonyn nhw. Dyma ambell i argraff.
Mae'n ymddangos bod Peter Finch wedi penderfynu manteisio ar lwyddiant "Real Cardiff" a "Real Cardiff 2" trwy lansio cyfres yn dilyn yr un fformat. Mae Peter ei hun wedi 'sgwennu "Real Wales" (sy'n swnio fel gorsaf radio i fi) ond y trysor yw "Real Merthyr" gan Mario Basini. Mae darllenwyr y "Western Mail" yn hen gyfarwydd a safon 'sgwennu Mario a'i safbwyntiau cadarn a digyfaddawd. Mae fe ar ei orau wrth drafod tref ei febyd. Dyma un paragraff bach sy'n cyfleu'r naws- disgrifiad o un o beldroedwyr y dref.
"The short, mercurial Jenkin Powell had legs so bowed it was a miracle he could walk, let alone run with an eel's electric speed... Journalists and fans usually softened his first name to Shenkin. From there it was a short step to the nickname "stinkin". But it was always a term of affection."
Un arall o "enwau mawr" y Western mail yw John Humphries awdur "Freedom Fighters- Wales Forgotten 'War', 1963-1993". Fel mae'r teitl yn awgrymu adrodd hanes mudiadau treisgar Cymru yn ail hanner yr ugeinfed ganrif mae'r llyfr. Mae'n ddifyr ac yn ddarllenadwy. Yn anffodus dydw i ddim yn meddwl bod John yn dod yn agos at brofi ei brif ddamcaniaeth sef bod 'na gysylltiadau uniongyrchol rhwng y gwahanol grwpiau ac unigolion bu'n gosod dyfeisiadau a chynnau tannau ar hyd y degawdau. Mae John yn osgoi'r cwestiwn amlwg. O gofio bod yr heddlu yn y chwedegau wedi dal arweinwyr MAC a'r FWA- sut ar y ddaear wnaethon nhw fethu dal arweinwyr Meibion Glyndwr- os oedd y cysylltiadau hynny'n bodoli?
Darlledwr o dras Cymreig yw Alan Jones ond dyw'r gair "darlledwr" ddim yn cyfleu maint ei ddylanwad ar wleidyddiaeth Awstralia. Jones yw Rush Limbaugh neu Bill O'Reilly Sydney- y darlledwr radio asgell dde sydd yn gallu dinistrio gyrfaoedd gwleidyddol a bywydau unigol. Dydw i erioed wedi darllen bywgraffiad mor ddamniol a "Jonestown" gan Chris Masters- ond nid polemig yw'r llyfr. Cam wrth gam mae'r awdur yn olrhain y ffeithiau ac yn cyflwyno ei dystiolaeth. Mae'n croniclo llygredd Jones wrth dderbyn arian gan gwmnïau ac yna eu canmol ar yr awyr, ei gelwyddau ynghylch ei fywyd rhywiol a phersonol a'i effaith ddinistriol ar wleidyddiaeth. Ond, fel mae Masters ei hun yn nodi, dyw cyhoeddi'r llyfr ddim wedi cael unrhyw effaith ar Jones, ei yrfa na'i boblogrwydd. Mae hynny yn arwydd o'i bwêr.
- Vaughan Roderick
- 5/01/2009, 12:40
Mae un o gryts fy nheulu yn wynebu argyfwng. Er ei fod yn un o selogion y "Spar Family Stand" ym Mharc Ninian penderfynodd y bychan ei fod am gael tîm i gefnogi yn uwch gynghrair Lloegr a chystadlaethau Ewrop. Er mwyn efelychu Aaron Ramsey penderfynodd mai Arsenal fyddai'r tîm hwnnw. Nawr, beth sydd wedi digwydd? Cwpan yr FA, y bedwaredd rownd. Caerdydd v Arsenal. Och! Gwae ni! Beth i wneud? Pwy i gefnogi? Mae penderfyniadau fel 'na'n anodd yn ddeg oed!
Mae teyrngarwch emosiynol yn bwysig mewn gwleidyddiaeth hefyd. Mae cysylltiad plaid a'i chefnogwyr yn aml iawn yn dibynnu'n fwy ar emosiwn a "ffyddlondeb i'r tîm" nac ar unrhyw benderfyniad polisi neu rinwedd yn yr arweinyddiaeth. Dyna yw'r rheswm, mae'n debyg, am y casineb tuag at unrhyw un sy'n newid plaid. Mae Alun Davies yn dioddef hynny ar hyn o bryd ac er nad yw e wedi cymryd y cam olaf trwy ymuno â Phlaid Cymru mae Ron Davies yn destun gwawd yn rhengoedd y Blaid Lafur.
Go brin bod unrhyw un wedi dioddef yn fwy o'r ffenomena nac Elystan Morgan. I'r rheiny sy'n rhy ifanc i gofio safodd Elystan dros Blaid Cymru ym Meirionnydd yn 1964. Ef oedd y "Gwynfor ifanc"- mab darogan ei blaid. Erbyn 1966 roedd wedi troi at Lafur gan ennill Ceredigion i'r blaid. Collodd ei sedd yn 1974 a methiant fu ymdrech i ddychwelyd i'r senedd fel aelod Llafur Ynys Môn.
Eironi'r stori yw bod Elystan wedi cam-ddarllen y sefyllfa wleidyddol yng Nghymru. O fewn misoedd i'w ethol yn 1966 daeth is-etholiad Caerfyrddin. Does dim dwy waith yn fy meddwl i y byddai Elystan wedi ennill Meirionnydd neu Geredigion i Blaid Cymru yn 1970 neu 1974 pe bai heb newid ei blaid. Dw i'n argyhoeddedig hefyd y byddai wedi dal y naill sedd neu'r llall heb fawr o drafferth mewn etholiadau dilynol.
Nawr, mae Elystan wedi cael bywyd da a llawn fel arglwydd a barnwr. Serch hynny mae'n anodd peidio teimlo bod 'na elfen o drasiedi a gwastraff ynghylch ei yrfa. Ar ben hynny fe wnaeth ddioddef blynyddoedd o wawd a chasineb gan genedlaetholwyr. "Athelstan Organ" oedd Elystan yn ôl "Lol" ac roedd posteri yn ei wawdio ar welydd colegau a stondinau `steddfod. Trwy hyn oll fe gadwodd ei urddas. Glynodd at ei egwyddorion gwleidyddol hefyd gan arwain yr ymgyrch "Ie" yn refferendwm 1979- jobyn di-ddiolch os buodd un erioed!
Y cwestiwn sy' gen i yw "pam?"- ond nid cwestiwn i Elystan yw hwnnw. Mae'n ddigon hawdd deall y cymysgedd o rwystredigaeth ac uchelgais wnaeth arwain at ei benderfyniad yntau. Yn hytrach mae'n gwestiwn i gefnogwyr Plaid Cymru a'r pleidiau eraill. Pam y casineb parhaol tuag at Elystan ac eraill? Pam mae Alun Davies a Ron Davies yn cael eu dirmygu? Ydy unrhyw un sy'n newid ei feddwl yn "fradwr"? Sut mae rhyw un sy'n cael ei ganmol fel arwr un diwrnod yn gallu troi'n ddarn o faw ci dros nos?
Mae teimlad o siom, dicter hyd yn oed, wrth i rhyw un adael plaid yn ddealladwy- ond oes rhaid i'r peth bara am byth?
- Vaughan Roderick
- 4/01/2009, 00:06
Dydw i ddim yn cyhoeddi pob un o'r sylwadau sy'n cael eu postio ar y blog yma. Weithiau mae nhw'n anghymwys, weithiau mae nhw'n bersonol.
Ddoe fe dderbyniais un sylwad (caredig, dw i'n meddwl) gyda chais i beidio cyhoeddi. Gan barchu hynny, ac heb ei ddyfynnu, mae'n codi pwynt hynod ddiddorol. Hanfod y sylwad oedd bod 'na nifer o wallau gramadegol yn y post "Hen Hanes". Dydw i ddim am wastraffu amser yn anghytuno a'r cyweiriadau. Dyw post bach diog o gartref ddim cweit mor drylwyr ac erthyglau o'r gwaith!
Ond mae'n codi cwestiwn diddorol. Cwestiwn "mas a gras" os liciwch chi. Mae emynau Pantycelyn yn gyson yn defnyddio "mas" a "gras" fel geiriau sy'n odli. Mae'r llyfrau emynau ar y llaw arall yn gyson yn troi'r "mas" yn "maes" gan golli'r odl. Mae'r cywirdeb ieithyddol yn lladd y farddoniaeth.
Wrth gychwyn y blog 'ma fe wnes i benderfynu defnyddio Cymraeg ychydig yn wahanol i'r iaith y byswn yn defnyddio wrth 'sgwennu erthyglau newyddion- sef rhyw fath o fersiwn ysgrifenedig o'r iaith dw i'n ei siarad yn ddyddiol. "Dw i" yn lle "rwyf" neu " mi ydwyf", "mas" yn lle "allan", "cryts" yn lle "bechgyn", "taw" yn lle "mai" ac yn y blaen.
Mae'r rheiny efallai yn wallau ieithyddol -os ydych chi'n feistr at y Cywiriadur Cymraeg- ond mae'r gwallau hynny'n ran o ymgais i ddod o hyd i ffordd o sgwennu sy'n ddarllenadwy i bobol nad ydynt gan amlaf yn darllen Cymraeg.
Mae'r "stat-porn"ynghylch nifer darllenwyr y blog yma'n awgrymu rhyw faint o lwyddiant. Mae'r adwy rhwng y nifer o bobol sy'n medru siarad Cymraeg a'r nifer sy'n gallu ei darllen yn broblem ddifrifol. Mae 'na angen ddybryd i greu Cymraeg ysgrifenedig sy'n ddealladwy i siaradwyr Cymraeg yn hytrach nac iaith sy'n eiddo i gwlt o ramadegwyr.
Mae 'na beryglon wrth gwrs. Mae safonau gramadegol yn bwysig. Ond mae'n beryglus hefyd i ddyrchafu'r Gymraeg i fod yn iaith sy'n eiddo i'r ychydig gannoedd neu filoedd o bobol sy'n gallu ei sgwennu mewn modd clasurol gywir Ydy ni'n credu, mewn gwirionedd, bod sefyllfa'r Gymraeg mor gryf nes ei bod yn gallu fforddio bod yn llai hyblyg na'r Saesneg?
Os oedd "mas" yn ddigon da i Bantycelyn mae'n ddigon da i fi.