Sain Ffagan ar frig atyniadau

Eglwys Teilo Sant, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru Image copyright Other
Image caption Eglwys Teilo Sant yw un o atyniadau'r amgueddfa

Yn ôl arolwg cylchgrawn defnyddwyr Which?, mae hoff atyniad ymwelwyr y DG yng Nghymru.

Yn gynharach yn y flwyddyn fe gafodd dros 3,000 o ddefnyddwyr y cylchgrawn eu holi am yr atyniadau yr oedden nhw wedi ymweld â nhw.

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru ger Caerdydd ddaeth i'r brig.

Yr amgueddfa oedd y gyntaf yn yr adran Amgueddfeydd ac Orielau Celf yn ogystal â'r hoff atyniad.

Oherwydd iddi gael 90% o ran sgôr boddhad roedd yn un o bum atyniad i dderbyn statws Argymhelliad Which?

Y pedwar arall oedd Sw Caer, Sw Colchester, Gerddi Botaneg Brenhinol Caeredin a Chastell Leeds yn Sir Caint.

Yn ôl yr amgueddfa, Sain Ffagan yw atyniad treftadaeth fwyaf poblogaidd Cymru ac mae dros 600,000 o ymwelwyr yn mynd yno yn flynyddol.

'Cydnabyddiaeth'

"Rydym wrth ein boddau fod y cyhoedd wedi ein dewis ni ar gyfer y wobr hon sy'n cadarnhau ein safle pwysig wrth galon yr arlwy i ymwelwyr ym Mhrydain," meddai Bethan Lewis, Pennaeth Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.

"Rydym yn ymfalchïo yn ein digwyddiadau amrywiol ac yn safon ein cyfleusterau ac mae'n gydnabyddiaeth o waith caled ein holl staff.

Image copyright Other
Image caption Mae 600,000 o bobl yn ymweld â Sain Ffagan bob blwyddyn

"Mae'n gyfnod hynod brysur inni yn Sain Ffagan; erbyn diwedd y flwyddyn mi fyddwn wedi cwblhau nifer o atyniadau newydd gan gynnwys Tŷ Masnachwr Tuduraidd, Cytiau Lloi o'r 19eg ganrif a Gweithdy Clocsiwr o'r 20fed ganrif.

"Rydym hefyd yn gweithio ar gynlluniau manwl i drawsnewid y profiad ymwelwyr a sefydlu Sain Ffagan yn gartref i hanes Cymru."

Mae'r Amgueddfa'n cynnwys dros 40 o adeiladau sydd wedi'u symud o bob cwr o Gymru a'u hail-godi ar diroedd Castell Sain Ffagan.

Cafodd 3,001 o bobl eu holi ar gyfer yr arolwg dros y ddwy flynedd diwethaf.

Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o wobrau ymwelwyr i'r Amgueddfa eu hennill.

Yn 2010, dewisodd defnyddwyr gwefan ryngwladol TripAdvisor, Sain Ffagan yn un o'r 10 safle gorau i ymweld â nhw am ddim yn y DU ac ym mis Gorffennaf eleni, enwodd defnyddwyr netmums.com Sain Ffagan fel y lle gorau i fynd iddo am ddim yn y de ddwyrain.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.