Y Gweilch yn codi i'r brig

Dan Biggar Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Ciciodd Biggar 16 pwynt i'r Gweilch

Nos Wener

Scarlets Caeredin

Glasgow v Dreigiau

Dydd Sadwrn

Aironi v Cardiff Blues

Y Gleision 13 Glasgow 34

Cododd Y Gweilch i frig Cynghrair y Pro Deuddeg ar ôl iddynt guro Connacht 26-21 yn Stadiwm Liberty nos Wener.

Roedd hi'n noson dda i'r rhanbarthau oherwydd curodd y Dreigiau Ulster 22-19 yng Nghasnewydd.

Y Gweilch

Roedd ceisiau Barry Davies a Hanno Dirkson, yn ogystal â phedair cic gosb a dau drosiad gan Dan Biggar yn golygu buddugoliaeth haeddiannol i'r Gweilch.

Dwy gais gan Duffy, a dwy gic gosb, trosiad a chic adlam gan Niall O'Connor oedd ymateb Connacht.

Hon oedd y pumed gêm o'r bron i'r Elyrch ennill.

Dreigiau

Cododd y Dreigiau i'r wythfed safle yng Nghynghrair y Pro Deuddeg yn dilyn buddugoliaeth hawdd yn erbyn Ulster.

Tom Riley sgoriodd unig gais yr ornest ar ôl 24 munud a llwyddodd Jason Tovey gyda'r trosiad.

Ychwanegodd Tovey pum cic gosb i'r tîm cartref.

Dim ond tair cic gosb gan Jackson oedd ymateb Ulster.

Y Scarlets

Collodd y Scarlets eu pedwaredd gêm o'r bron yng Nghyngrhair y Pro Deuddeg ddydd Sadwrn.

Ludovico Nitoglia sgoriodd cais cynta'r ornest i Treviso cyn i gic gosb gan Kris Burton ymestyn mantais y tîm cartref.

Ond tarodd y Scarlets yn ôl pan sgoriodd Liam Williams gais a llwyddodd Dan Newtown gyda'i drosiad.

Ond enillodd yr asgellwr o Awstralia, Brendan Williams, y gêm i Treviso cyn i Burton lwyddo gyda'i ail drosiad a dwy gic gosb arall.

Y Gleision

Enillodd Glasgow eu gêm gyntaf yng Nghymru er Mai 2010 gan ennill point bonws hefyd wrth iddynt guro'r Gleision yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Sadwrn.

Colin Gregor, James Eddie, Tommy Seymour a Stuart Hogg sgoriodd y ceisiau i sicrhau'r fuddugoliaeth.

Sgoriodd y maswr Duncan Weir 12 pwynt heb fethu'r un gic.

Sgoriodd Casey Laulala a Mike Paterson geisiau i'r Gleision a chiciodd Ceri Sweeney un gic gosb.