Holi ac ateb: Y gyllideb ddrafft

Arian Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Sut y bydd y Llywodraeth yn rhannu'r arian?

Bydd Llywodraeth Cymru'n amlinellu cynlluniau gwariant gwerth dros £14 biliwn pan fydd y gyllideb ddrafft yn cael ei chyhoeddi ddydd Mawrth. Ond beth yw'r sialens sy'n wynebu Gweinidogion Cymru?

Beth sy'n digwydd, a phryd?

Bydd Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi cyllideb ddrafft ar gyfer 2012-13 tua 3pm ddydd Mawrth. Bydd y cyhoeddiad yn cael ei wneud gan y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, yn ystod sesiwn lawn y Cynulliad.

Beth fydd yn wahanol eleni?

Am y tro cynta' ers blynyddoedd, does gan y llywodraeth ddim mwyafrif clir ym Mae Caerdydd. Gyda dim ond 30 o'r 60 sedd yn y Senedd, bydd angen cefnogaeth y pleidiau eraill er mwyn pasio'r gyllideb. Bydd angen, felly, i'r Blaid Lafur ystyried ambell gyfaddawd cyn y bydd y gyllideb orffenedig yn cael ei thrafod gan y cynulliad ym mis Rhagfyr. Bydd angen iddyn nhw sicrhau cefnogaeth o leia' un aelod o'r gwrthbleidiau. Bydd y gwrthbleidiau, ar y llaw arall, yn awchu am drafodaeth er mwyn ceisio gorfodi'r llywodraeth i fabwysiadu rhai o'u polisïau nhw.

Beth yw gwerth y gyllideb?

Mewn termau ariannol syml (heb ystyried effaith chwyddiant), mae disgwyl i gyllideb Llywodraeth Cymru ddisgyn o £14.537 biliwn eleni i £14.528 biliwn yn 2012-13. Ond ar ôl ystyried effaith chwyddiant, bydd yr ergyd ar y gyllideb dipyn yn fwy difrifol, gan osod pwysau sylweddol ar weinidogion i gwtogi ar wariant cyhoeddus. Ond gan nad yw'r blaid Lafur wedi cyhoeddi cyllideb ar liwt ei hun yng Nghymru ers 2006, yna bydd cryn dipyn o sylw ar eu blaenoriaethau gwleidyddol.

Pwy sy'n galw am beth?

Yn gryno, mae'r Ceidwadwyr wedi galw'n gyson am fwy o arian ar gyfer iechyd. Yn ôl y cynlluniau gwariant presennol, mae disgwyl i gyllideb y gwasanaeth iechyd yng Nghymru sefyll yn ei unfan am ddwy flynedd. Yn ôl y Ceidwadwyr, mae hynny'n gyfystyr â thoriadau go iawn gwerth £1 biliwn. Ond gan fod y gwasanaeth iechyd yn amsugno 40% o holl gyllideb Llywodraeth Cymru, yna byddai unrhyw gynnydd i wariant iechyd yn creu problemau sylweddol i rannau eraill o'r gyllideb. Mae'r Ceidwadwyr hefyd wedi galw am beidio codi lefelau Treth y Cyngor yng Nghymru.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol am weld mwy o arian yn cael ei wario ar addysg. Maen nhw eisiau gweld gwariant y pen ar gyfer bob disgybl yng Nghymru yn cyrraedd yr un lefel â disgyblion yn Lloegr. Mae Llywodraeth Cymru'n dadlau bod gwariant ar addysg eisoes yn cynyddu, wrth sicrhau bod mwy o arian yn llifo'n uniongyrchol i ysgolion.

Mae pwyslais Plaid Cymru'n debygol o fod ar gynyddu gwariant ar bolisïau economaidd. Mae rhan yma'r gyllideb wedi gweld toriadau difrifol - i raddau helaeth oherwydd cynlluniau gwariant cyfalaf mawr fel adeiladu ffyrdd ac ysbytai newydd. Yn ôl Plaid Cymru, mae'r tirlun economaidd yn edrych yn wannach erbyn hyn, ac felly maen nhw'n credu bod angen buddsoddi mwy o arian cyhoeddus er mwyn arbed swyddi ac arbed dirywiad pellach yn yr economi Gymreig.

Sut bydd y llywodraeth yn arbed arian pellach?

Mae'r Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, eisoes wedi awgrymu bydd newidiadau strwythurol i'r gyllideb er mwyn hwyluso'r broses o archwilio gwariant ariannol gan adrannau'r llywodraeth. Ond wrth i chwyddiant erydu gwerth ariannol go iawn y gyllideb, bydd darparu'r un math o wasanaethau cyhoeddus yn parhau i fod yn sialens enfawr.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.