Ffisiotherapydd yn honni fod ambiwlans yn hwyr

Tom Bender Image copyright Other
Image caption Cafodd Tom Bender anaf difrifol i'w ben mewn gwrthdrawiad gyda dau chwaraewr arall

Roedd yr ambiwlans gafodd ei alw i stadiwm Accrington Stanley i drin chwaraewr o Gymru yn hwyr yn cyrraedd, medd ffisiotherapydd y clwb.

Cafodd Tom Bender, sy'n chwarae i dîm dan-21 Cymru, ei daro'n anymwybodol mewn gwrthdrawiad gyda dau chwaraewr arall yn y gêm yn erbyn Tranmere nos Fawrth.

Cafodd ambiwlans ei alw am 8:31pm ac fe gyrhaeddodd 17 munud yn ddiweddarach i gludo Bender i'r ysbyty er mwyn iddo gael archwiliad o'i ymennydd.

Cadarnhaodd Gwasanaeth Ambiwlans Gogledd-Orllewin Lloegr nad oedd yr ambiwlans wedi cyrraedd o fewn y targed o wyth munud.

Dywedodd llefarydd fod yr ambiwlans agosaf bob tro yn cael ei anfon i ddigwyddiad brys, ond mewn rhai achosion nad oedd yn cyrraedd yn syth.

Ychwanegodd llefarydd fod yr alwad wedi ei dderbyn am 8:31pm a bod yr ambiwlans ar ei ffordd erbyn 8:33pm.

Cyrhaeddodd am 8:48pm, gydag un arall yn dilyn pum munud yn ddiweddarach.

Gohirio'r gêm

Dywedodd ffisiotherapydd Accrington Stanley, Joe Hinnigan, nad oedd cymorth wedi cyrraedd yn ddigon buan.

Dywedodd: "Yr ymateb cyntaf a gawsom oedd y byddai yno ymhen naw munud, ond yna fe ddywedwyd y byddai'n 25 munud arall, a dyna pryd y dechreuodd ychydig o banig.

"Clywsom nad oedd ambiwlans yn Burnley nac yn Blackburn a bod rhaid i'r ambiwlans deithio o Preston.

"Mae hynny'n rhy bell, ac mae'n rhaid i ni edrych ar hynny a chael rhywbeth gwell wrth law."

Roedd Tranmere ar y blaen o 2-1 pan gafodd Bender ei anafu wrth daro yn erbyn ei golwr ei hun, Ian Dunbavin, ac ymosodwr Tranmere, Lucas Akins.

Cafodd y Cymro 18 oed driniaeth ar y cae am 30 munud, gan gynnwys cael ocsigen a'i fwydo â drip.

Cafodd y gêm ei gohirio.

Fe gludwyd Bender i Ysbyty Brenhinol Blackburn lle cafodd sgan i'w ymennydd, ac fe gafodd ei gadw yno dros nos.

Erbyn bore Mercher roedd wedi dod at ei hun ac yn siarad gyda'i rieni, ond fe gafodd ei gadw yn yr ysbyty am brofion pellach.

Mae Bender ar lyfrau clwb Colchester, ond wedi symud i Accrington ar fenthyg am dymor.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.