Yr Wyddfa: Pledio'n ddieuog

Car wedi ei adael ar Yr Wyddfa Image copyright Other
Image caption Cafodd y car ei adael ychydig lathenni o'r copa

Mae dyn 39 oed wedi ei gyhuddo o yrru cerbyd gyriant pedair olwyn i gopa'r Wyddfa wedi pledio'n ddi-euog.

Cyhuddwyd Craig Williams o Cheltenham o yrru'n beryglus wedi digwyddiad ar Fedi 3 lle cafodd cerbyd Vauxhall Frontera ei adael 400 llath o'r copa.

Fe fydd yr achos yn Llys y Goron.

Cafodd yr achos ei ohirio am wyth wythnos ac fe fydd gwrandawiad cychwynnol yn Llys Y Goron Caernarfon ar Ragfyr 2.

Mae ar fechnïaeth tan y dyddiad hwnnw.

Nid yw'r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn 39 oed gafodd ei arestio pan gafodd yr un cerbyd ei adael ar gopa'r Wyddfa unwaith eto ar Fedi 29.

Mae'r dyn hefyd wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.