Anafu dau: Arestio dyn 22 oed

Heddlu Gogledd Cymru Image copyright bbc

Cafodd dyn 22 oed ei arestio mewn cysylltiad â digwyddiad yn North Street, Shotton, am 8.30am fore Gwener.

Cafodd dyn a menyw anafiadau ond credir nad yw'r anafiadau yn peryglu eu bywydau.

Fe gafodd y ddau eu cludo i'r ysbyty. Y gred yw bod y fenyw wedi cael mân anafiadau i'w hwyneb a bod y dyn wedi cael ei drywanu.

Mae'r dyn 22 oed gafodd ei arestio yn y ddalfa yng Ngorsaf Heddlu Wrecsam.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Jason Devonport: "Mae swyddogion sy'n ymchwilio i'r digwyddiad yn apelio ar unrhyw un oedd yn ardal North Street rhwng 8am a 9am fore Gwener ac a welodd ddigwyddiad i gysylltu â'r heddlu yn yr Wyddgrug drwy ffonio 101 neu 0845 6071001.

"Gall pobl hefyd ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111."