Banc Bwyd Caerdydd
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Banciau bwyd ar gynnydd yng Nghymru

11 Hydref 2011 Diweddarwyd 09:24 BST

Mae 'na alw cynyddol am fanciau bwyd yng Nghymru.

Tair blynedd yn ôl dim ond un oedd yng Nghymru.

Bellach mae 15 yn ne Cymru.

Bwydo pobl sy'n methu fforddio prynu dim yw'r syniad.

Mae unigolion a theuluoedd anghenus yn cael talebau i'w cyfnewid am becynnau bwyd mewn gwahanol ganolfannau.

Adroddiad Rhiannon Michael.