Eryri: Hofrennydd yn achub dyn

Mae dringwr yn cael triniaeth yn yr ysbyty ar ôl syrthio oddi ar glogwyn yn Eryri.

Cafodd y dyn ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Gwynedd ym Mangor ar ôl i dimau achub mynydd a'r Awyrlu gydweithio.

Roedd dau ddyn o Wrecsam wedi bod yn dringo ar Y Garn, mynydd 3,100 troedfedd (945 medr) yn Nyffryn Ogwen, cyn i un ohonyn nhw lithro a chwympo oddi ar y clogwyn.

Roedd yr ail ddyn yn dringo o dano ac fe gafodd hwnnw anafiadau i'w goes a'i ben cyn cael ei godi i'r hofrennydd.

Cafodd Tîm Achub Dyffryn Ogwen a thîm Achub Mynydd y Llu Awyr o'r Fali eu galw i helpu'r dynion.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.