Trafod rheolaeth wleidyddol cyngor

Des Hillman Image copyright BBC news grab
Image caption Honodd Mr Hillman iddo gael ei danseilio gan aelodau ei grŵp ei hun

Bydd cynghorwyr ym Mlaenau Gwent yn trafod ystyried rheolaeth wleidyddol y cyngor yn dilyn ymddiswyddiad y cyn-arweinydd Des Hillman yr wythnos diwethaf.

Penderfynodd Mr Hillman, cynghorydd Annibynnol, ymddiswyddo ar Hydref 7 gan honni iddo gael ei danseilio gan aelodau ei grŵp ei hun sy'n rheoli'r cyngor.

Mae Mr Hillman yn cynrychioli ward Blaenau.

Mewn cyfweliad â rhaglen BBC Cymru, Dragon's Eye, mae Mr Hillman yn honni bod yr awdurdod lleol wedi dioddef "pwysau eithafol" gan Weinidogion Llywodraeth Cymru.

'stopio'r dadlau'

"Rwy'n credu bod y Cynulliad, neu ei Weinidogion - eisiau'r Blaid Lafur reoli Blaenau Gwent ac maen nhw'n chwilio am unrhyw esgus i wireddu hynny," meddai.

Ychwanegodd ei fod wedi ofni y byddai Gweinidogion yn penderfynu y bydden nhw'n rheoli'r awdurdod lleol i stopio'r dadlau ymysg cynghorwyr.

"Roeddwn i'n ofni byddai'r aflonyddwch gwleidyddol yn rhoi esgus i'r Gweinidog i benodi comisiynwyr i reoli'r cyngor fel y digwyddodd ar Ynys Môn," meddai.

Fis diwethaf penderfynodd Llywodraeth y Cynulliad roi gwasanaethau addysg Cyngor Blaenau Gwent yn nwylo dau gomisiynydd.

Roedd hynny wedi adroddiad beirniadol oedd yn sôn am fethiannau rheolwyr.

'esgusodion'

Dywedodd Aelod Seneddol Blaenau Gwent, Nick Smith, fod y cyngor wedi bod yn "ddamwain car gwleidyddol" yn ystod y misoedd diwethaf.

"Mae Cyngor Blaenau Gwent yn fusnes gwerth £100m," meddai.

"Y cyngor yw'r cyflogwr mwyaf yn yr ardal ac mae'r bobl leol yn haeddu gwasanaethau safonol nid esgusodion."

Mae arweinydd grŵp Llafur Cyngor Blaenau Gwent, Hedley McCarthy wedi datgan y bydd e'n ceisio sicrhau sefydlogrwydd tan etholiadau'r cyngor y flwyddyn nesaf.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n gobeithio y bydd arweinyddiaeth sefydlog ac adeiladol y cyngor yn cael eu hadfer cyn gynted â phosib.

"Ni allwn ddyfalu pam wnaeth y Cyng Hillman ymddiswyddo ond mae'n amlwg y dylai'r methiant i ddarparu gwasanaethau ar y fath raddfa a welwyd ym Mlaenau Gwent ysgogi pob arweinydd cyfrifol i ystyried eu sefyllfa.

"Rydyn ni'n gwrthod unrhyw honiad fod cynghorau annibynnol yn cael eu targedi gan Lywodraeth Cymru.

"Does dim rhagfarn yn perthyn i'r mater hwn."

Mae eleni wedi bod yn gyfnod cythryblus i Gyngor Blaenau Gwent.

Ym mis Mawrth gadawodd prif weithredwr Blaenau Gwent i adael ei swydd er mwyn torri costau uwch reolwyr y cyngor.

Roedd ei ymadawiad yn golygu bod tîm rheoli corfforaethol y cyngor yn mynd o bump i bedwar ac yn sicrhau arbediad o tua £315,000 dros y pum mlynedd nesaf.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Mae'r cyngor wedi cytuno i gynnal cyfarfod ddydd Gwener i ystyried rheolaeth wleidyddol y cyngor."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.