Shane: 'Dim chwerwder'

Mike Phillips Image copyright PA
Image caption Mike Phillips sgoriodd unig gais y gêm

Fe gafodd penderfyniad y dyfarnwr Alain Rolland i yrru capten Cymru o'r maes gryn sylw yn dilyn y rownd gynderfynol o Gwpan y Byd yn Auckland.

Collodd Cymru o 9-8 yn erbyn Ffrainc ar ôl gorfod chwarae am dros awr gydag 14 dyn wedi i Sam Warburton weld y cerdyn coch am dacl beryglus.

Cymru sgoriodd unig gais y gêm wrth i Mike Phillips groesi yn yr ail hanner.

Dywedodd hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, fod penderfyniad y dyfarnwr wedi bod yn allweddol.

Difetha'r gêm

Dywedodd Gatland: "Rwy'n teimlo fod tynged y gêm wedi ei ddwyn o'n dwylo ni gyda'r cerdyn coch.

"Fe wnaeth Sam ei godi - mae hynny'n gerdyn melyn - ond dyw e ddim wedi gwthio'r dyn i'r llawr.

"Ydi hyn yn golygu bob tro yr ydych yn codi dyn oddi ar y llawr mewn tacl ei fod e'n gerdyn coch?

"Pam difetha'r rownd gynderfynol gyda cherdyn coch? Dyw e ddim yn chwaraewr budr.

"Fe wnaethon ni ddangos cymeriad go iawn gydag 14 dyn a dwi'n falch o'n hymdrechion.

"Roeddwn i'n teimlo fod y tîm yma'n ddigon da i ennill y rownd derfynol ond doedd hynny ddim i fod."

Image copyright PA
Image caption Bu'n rhaid i Adam Jones adael y maes yn gynnar gydag anaf

'Dim chwerwder'

Dywedodd canolwr Cymru, Jamie Roberts: "Fe allwn ni fod yn falch o'r perfformiad gydag 14 dyn am gymaint o amser, ond mae'n dorcalonnus.

"Rydym yn aml yn ymarfer gydag 14 dyn ac fe wnaethon ni amddiffyn am ein bywydau.

"Fe gawson ni gwpwl o gyfleoedd i ennill y gêm ac yn anffodus fe darodd Stephen (Jones) y postyn gyda'r trosiad ac roedd Leigh (Halfpenny) fodfeddi'n brin gyda chic o hanner ffordd."

Roedd Shane Williams wedi gobeithio dod a'i yrfa i ben mewn rownd derfynol, ond fe fydd rhaid iddo fodloni gyda gem i benderfynu'r trydydd safle, a dywedodd:

"Unrhyw dro yr ydych chi'n chwarae i'ch gwlad, rydych am wneud eich gorau.

"Fe fyddwn ni wrth ein boddau yn gorffen yn drydydd.

"Does dim chwerwder - mae'r tîm chwaraeodd orau heddiw wedi ennill ac rydym yn dymuno pob lwc i Ffrainc yn y ffeinal."

Doedd mewnwr Ffrainc, Dmitri Yachvili, ddim yn cytuno. Dywedodd:

"Doedden ni ddim ar ein gorau heno ac rydym yn gwybod fod Cymru wedi haeddu ennill efallai, ond ni enillodd ac rydym yn hapus iawn."