Menyw, 55, yn marw mewn gwrthdrawiad

Bu farw gyrrwr yn dilyn gwrthdrawiad ger Pontyclun yn Rhondda Cynon Taf.

Roedd y fenyw 55 oed yn gyrru car Peugeot melyn fu mewn gwrthdrawiad gyda char Vauxhall Vectra llwyd a char Mitsubishi Shogun lliw arian am tua 10:20pm nos Wener.

Mae'r heddlu wedi apelion am dystion i'r digwyddiad ar Ffordd Llanhari ger cyffordd Castell Mwnws.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 01656 655555.

Dywedodd yr heddlu fod y fenyw, oedd yn byw yn lleol, wedi cael ei chludo i Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd, ond ei bod wedi marw yno.

Bu'r ffordd ar gau am oddeutu tair awr.

Mae Heddlu'r De am siarad gydag unrhyw un wnaeth stopio i gynnig cymorth neu sydd â gwybodaeth allai fod yn berthnasol i'w hymchwiliad i'r digwyddiad.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.