Joubert i ddyfarnu'r ffeinal

Craig Joubert Image copyright Getty Images
Image caption Craig Joubert fydd yn dyfarnu y ffeinal

Craig Joubert fydd yn dyfarnu'r gêm derfynol rhwng Seland Newydd a Ffrainc yng Nghwpan y byd ddydd Sul nesaf.

Yn ei gynorthwyo ar yr ystlys fydd y Cymro Nigel Owens ac Alain Rolland, y dyfarnwr wnaeth roi'r cerdyn coch i Sam Waberton.

Rolland fydd yn cymryd lle Joubert pe bai o'n cael ei anafu.

Y Sais Wayne Barnes fydd y dyfarnwr yn y gêm rhwng Cymru ac Awstralia am y trydydd safle ddydd Gwener.

Dywedodd rheolwr y dyfarnwyr rhyngwladol Paddy O'Brien: "Roedd y Bwrdd Rhyngwladol yn hapus iawn gyda pherfformiad Craig ac Alain yn y gemau gynderfynol.

"Alain fydd y dyfarnwr wrth gefn, fydd yn cymryd yr awenau pe bai angen."

Dywedodd Joubert, 33 oed: "Mae hwn yn anrhydedd mawr i gael dyfarnu'r ffeinal, a byddwn yn hoffi diolch i Paddy a'r pwyllgor rhyngwladol am roi'r cyfle i mi."