Ymchwilio i ymosodiad difrifol

Mae'r heddlu'n ymchwilio wedi ymosodiad difrifol ar ddyn 47 oed yn Nhre-gŵyr ger Abertawe nos Lun.

Dywedodd ditectifs fod dyn tua 30 oed wedi galw mewn tŷ am 5.50pm cyn pwnio'r dyn yn ei ben a'i daro â bar haearn.

Fe ddihangodd yr ymosodwr i gyfeiriad Canolfan Chwaraeon Yr Elba.

Aed â'r dyn 47 oed i Ysbyty Treforys am fod anafiadau i'w ben a'i gorff a rhai o'i fysedd wedi eu torri.

Mae'r heddlu'n chwilio am ddyn hyd at 5 troedfedd 10 modfedd o daldra a chanddo wallt golau byr ac yn gwisgo cot dywyll.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Anthony Jones: "Roedd hwn yn ymosod direswm yng nghanol ardal breswyl dawel."

Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555 111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.