Llofruddiaeth: Arestio dau

Cafodd yr heddlu eu galw ychydig wedi 10:45pm Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Cafodd yr heddlu eu galw ychydig wedi 10:45pm

Mae dau ddyn wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi ymosodiad honedig nos Fawrth.

Cafodd yr heddlu eu galw i bentref Gallt Melyd yn Sir Ddinbych ychydig wedi 10:45pm.

Roedd hyn yn dilyn adroddiadau fod dyn yn ei 30au wedi cael ei anafu'n ddifrifol ger tŷ bwyta Tseineaidd ar Ffordd Talargoch.

Cludwyd y dyn - y credir iddo fod o Hwngari ond yn byw yn Y Rhyl - i'r ysbyty ond bu farw'n ddiweddarach o'i anafiadau.

Mae Heddlu'r Gogledd yn awyddus i siarad gydag unrhyw un a welodd y digwyddiad a hefyd bobl oedd yng nghyffiniau'r tŷ bwyta a thafarn y Star Inn rhwng 10:00pm a 11:00pm.

Dylai pobl allai fod o gymorth i'r ymchwiliad ffonio naill ai 101 neu 0845 6071001, neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.