Cymru am drechu Awstralia 'er mwyn Sam'

James Hook a Sam Warburton Image copyright Getty Images
Image caption James Hook yn cysuro Sam Warburton wrth i Gymru golli i Ffrainc

Bydd tîm Cymru yn meddwl am eu capten, Sam Warburton, wrth herio Awstralia am y trydydd safle yng Nghwpan y Byd fore Gwener.

Fe gafodd Warburton ei wahardd oherwydd cerdyn coch yn y rownd gynderfynol yn erbyn Ffrainc.

Cafodd ei yrru o'r maes gan y dyfarnwr Alain Rolland am dacl beryglus ar asgellwr Ffrainc, Vincent Clerc.

"Fe ddywedodd y bois ar yr egwyl yn erbyn Ffrainc ein bod ni am ennill er mwyn Sam," meddai maswr Cymru, James Hook.

"Mae Sam wedi bod yn wych nid dim ond yng Nghwpan y Byd ond ers iddo ddechrau chwarae i Gymru."

Cyfle arall

Er na chafodd Hook gêm ddisglair yn erbyn Ffrainc, mae'n cael cyfle arall yn y crys rhif 10 yn erbyn Awstralia yn Auckland gan nad yw anaf Rhys Priestland i'w ysgwydd wedi gwella.

Methodd y maswr - fydd ar ei ffordd i Perpignan wedi'r gystadleuaeth - ddwy gic at y pyst ac roedd Stephen Jones yn eilydd yn yr ail hanner.

"Roedd y gêm yn siomedig i bawb, ac yn enwedig i mi," meddai Hook.

"Rwy'n falch o gael cyfle arall a bwrw 'mlaen gyda'r her enfawr o'n blaenau.

"Yn amlwg, roedd y ciciau'n hollbwysig ar ddiwedd y gêm gan i ni golli o bwynt yn unig.

"Roedd hi'n anodd pan oedden ni lawr i 14 dyn ond does dim esgusodion gen i na Sam. Rydyn ni wedi derbyn yr hyn ddigwyddodd.

"Ac rydyn ni'n ymwybodol pa mor fawr yw'r her o'n blaenau ni i orffen yn drydydd yn y gystadleuaeth a gorffen ar nodyn uchel."

"Os gallwn ni guro un o dimau'r Tri-Nations yn hemisffer y de, fe fydd yn hwb anferth i'r hyder cyn Pencampwriaeth y Chwe Gwlad y tymor hwn."

Tîm Cymru v Awstralia; Eden Park, Auckland; Dydd Gwener, Hydref 21 am 8:30am

Olwyr: - L Halfpenny (Gleision); G North (Scarlets), J Davies (Scarlets), J Roberts (Gleision), Shane Williams (Gweilch); J Hook (Perpignan), M Phillips (Bayonne);

Blaenwyr :- G Jenkins (Gleision, capt), H Bennett (Gweilch), P James (Gweilch), B Davies (Gleision), L Charteris (Dreigiau), D Lydiate (Dreigiau), T Faletau (Dreigiau), R Jones (Gweilch);

Eilyddion: L Burns (Dreigiau), R Bevington (Gweilch), A-W Jones (Gweilch), A Powell (Sale Sharks), L Williams (Gleision), S Jones (Scarlets), Scott Williams (Scarlets).