Cynghorau Cymru â stoc sylweddol o halen graeanu

Stoc o halen graenu yn Llan-ffwyst Sir Fynwy Image copyright Other
Image caption Mae cynghorau Cymru wedi cynyddu eu stoc o halen graeanu

Ar ôl beirniadaeth yn ystod misoedd caled y gaeaf y llynedd mae lefel y graean sydd bellach ar gael gan gynghorau lleol Cymru wedi cyrraedd ei huchaf erioed.

Mae pedwar o'r cynghorau, Caerdydd, Caerffili, Blaenau Gwent a Sir y Fflint, wedi o leiaf dyblu nifer y graean sydd ar gael wrth gefn - ac mae awdurdodau eraill wedi archebu tunelli'n ychwanegol.

Dywed y corff sy'n cynrychioli cynghorau yng Nghymru bod y lefel yn uchel ond y gallai fod "yn anochel" y byddan nhw'n rhedeg yn isel.

Yr wythnos yma mae'r tywydd wedi oeri er bod disgwyl iddo gynhesu unwaith eto.

Cafodd cynghorau eu beirniadu ar ôl i gyflenwadau brinhau ar ôl eira a rhew ym mis Tachwedd 2010 a barodd am rai wythnosau.

I yrwyr roedd yr amgylchiadau gyrru yn beryglus wrth i awdurdodau lleol gael eu gorfodi i drin ffyrdd yn gynt na'r disgwyl.

Rhannu'r halen

Erbyn y Nadolig, rhybuddiodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bod stoc yn prinhau.

Fe wnaeth gweinidogion Llywodraeth Cymru roi £7 miliwn tuag at wella tyllau ffyrdd ac ychwanegu y bydd y stoc halen cenedlaethol yn cael ei rannu rhwng y cynghorau oedd mewn mwy o angen.

Eisoes mae rhai ardaloedd o Gymru wedi gweld rhew ac mae'r cynghorau yn dweud eu bod yn fwy parod i ddelio gyda'r tywydd gaeafol nag yr oedden nhw'r adeg yma'r llynedd.

Dywedodd Cyngor Caerdydd, a gafodd ei feirniadu am eu hymateb i'r eira gwaetha ers 1983, eu bod wedi mwy na dyblu eu stoc o 1,800 tunnell i 4,000 gyda 3,000 arall wedi ei archebu ar gyfer y storfa newydd.

Ond mae apêl ar ysgolion a grwpiau cymunedol i brynu 'cyfarpar eira' am £1,600 er mwyn bod yn barod ar gyfer y tywydd gaeafol wedi methu.

Dim ond 12 o'r 117 ysgol yn y sir wnaeth fanteisio ar y cynnig a dim un meddygfa na grŵp cymunedol yn prynu'r cyfarpar a oedd yn cynnwys dau fin halen graeanu a pheiriant arbennig.

Dywedodd Cyngor Bro Morgannwg bod ganddyn nhw 4,600 tunnell, yr un faint â'r llynedd ond bron i ddwbl y flwyddyn flaenorol sy'n ddigon ar gyfer 80 niwrnod o raeanu.

Dyblu stoc

Cyngor Torfaen sydd wedi cynyddu eu stoc fwya gan storio 58,000 tunnell.

Mae Cyngor Blaenau Gwent wedi prynu nifer o gerbydau bach all gyrraedd strydoedd preswylwyr ac wedi mwy na dyblu eu stoc i 4,500 tunnell.

Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bod awdurdodau mewn sefyllfa gadarn, wedi gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw stoc, ac yn barod ar gyfer y gaeaf.

"Yn anochel, os fydd 'na gyfnodau hir o dywydd caled, o eira yn benodol, fe fydd y stoc yn mynd yn isel," meddai llefarydd.

"Rydym wedi cymryd camau i baratoi ar gyfer y tywydd caled ond dyw hi ddim yn bosib, ar sail cost, i fod â digon o stoc a fydd yn dileu'r risg yn llwyr.

"Fe fydd yr awdurdodau lleol, fel yn y blynyddoedd diwethaf, yn cydweithio gyda Llywodraeth Cymru."

Dywedodd Paul Watters o Gymdeithas Foduro'r AA bod rhai o'r cynghorau wnaeth redeg allan o halen y llynedd wedi paratoi yn well erbyn hyn.

"Os gawn ni aeaf oer, y ffactor allweddol yw am ba mor hir.

"Os gaiff y stoc bresennol ei ddefnyddio, mae 'na drafferthion efo ail archebu...."

Cyngor Tunnell o halen/graean yn y storfa Tunnell ar gael / defnyddiwyd y llynedd Ffyrdd yn yr ardal/ffyrdd i'w graenu
Abertawe
Blaenau Gwent 4,500 2,000 Graenu 48% o ffyrdd 200 cilometr (125 milltir)
Bro Morgannwg 4,600 Fel y llynedd ond bron i ddwbl y blynyddoedd blaenorol 43% o ffyrdd tua 274 milltir
Caerdydd 4,067 1,824 i ddechrau ac wedi archebu 2,900 1,080 cilometr (670 milltir) / 475 cilometr (295 milltir)
Caerffili 10,000 5,000 1,150 cilomedr (715 milltir)/ 485 cilomedr (300 milltir) dros naw ffordd
Caerfyrddin 14,436 a 1,050 o raean chwarel 9,500 a 2,500 wedi ei archebu 3,526 cilometr (2,200 milltir)
Casnewydd 3,400 2,200 295 milltir o brif ffyrdd neu 47% o rwydwaith y ffyrdd a 25 o lwybrau sy'n arwain at ysgolion
Castell-nedd Port Talbot 6,500 5,830 813 cilometr (505 milltir) sef 42% neu 341 cilometr (210 milltir) ar bum llwybr graeanu
Ceredigion 9,430 5,750 2,100 cilometr (1,300 milltir) / 446 cilometr (280 medr)
Conwy 12,500 10,500 611 cilometr (380 milltir) / 210 cilometr (130 milltir)
Dinbych 9,800 10,200 Bron i 400 milltir o ffyrdd neu 28% o'r rhwydwaith
Fflint 10,200 5,000 1,100 cilometr (685 milltir) sef 47%
Gwynedd 17,300 12,800 2,916 cilometr (1,800 milltir)
Merthyr Tudful 3,000 1,800 296 cilometr (185 milltir) yn ogystal â'r prif ffyrdd / 153 cilometr (95 milltir) yn ogystal a'r prif ffyrdd
Mynwy 10,000 6,500 1,600 cilometr (995 milltir) / 530 cilometr (330 milltir)
Penfro 7,800 6,800 2,450 cilometr (1,522 milltir) o ffyrdd y sir
Pen-y-bont ar Ogwr 5,800 4,400 Cyfanswm y rhwydwaith yw 791 cilometr (490 milltir)
Powys 22,000 Fel y llynedd ond 15,000 tunnell wedi ei storio yn 2009/10 1,400 cilometr (870 milltir) wedi eu graenu sef 19% o'r rhwydwaith. Y flaenoriaeth yw'r prif ffyrdd
Rhondda Cynon Taf 15,000 11,000 1,250 cilometr (775 milltir) o ffyrdd a 1,400 cilometr (870 milltir) o lwybrau
Torfaen 58,000 38,000 442 cilometr (275 milltir)/ 230 cilometr (145 milltir)
Wrecsam 8,000 7,000 10 prif ffordd sef 40% o'r 1,140 cilometr (700 milltir)
Ynys Môn 7,300 3,800 466 cilometr (290 milltir)

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.