Cymru yn herio Awstralia

Shane Williams Image copyright Getty Images
Image caption Shane Williams yn croesi am gais Cymru

O flaen miloedd yn Stadiwm Eden Park yn Auckland roedd Cymru ar ei hôl hi o 7-3 yn erbyn Awstralia ar yr egwyl.

Dyma gêm olaf Cymru ym mhencampwriaeth Cwpan Rygbi'r Byd 2011.

Y gêm a gychwynnodd am 8.30am (amser Cymru) fydd yn penderfynu pwy fydd yn drydydd yn y gystadleuaeth - gêm am y fedal efydd.

Awstralia gychwynnodd gryfaf.

Yn ystod yr hanner roedden nhw'n rheoli'r sgrym ac fe arweiniodd hynny at gais cyntaf y gêm wedi 13 munud i Berrick Barnes cyn i James O'Connor drosi'r cais.

Funudau yn gynharach roedd Shane Williams wedi derbyn triniaeth ar yr ystlys ar ôl cael ei daflu i'r awyr mewn tacl.

Hanner ffordd drwy'r hanner cyntaf llwyddodd James Hook gyda chic gosb gan roi'r pwyntiau cyntaf i Gymru.

Cafodd Quade Cooper anaf i'w droed a bu'n rhaid iddo adael y cae i Awstralia cyn i O'Connor fethu gyda chic gosb i roi mwy o fantais i Awstralia.

Methodd Leigh Halfpenny hefyd â chic gosb i Gymru yn yr hanner cyntaf.

Image copyright Getty Images
Image caption Berrick Barnes gafodd cais cyntaf y gêm i Awstralia

Yn yr ail hanner methodd Hook gyda chic gosb arall a throsgais wedi i Shane Williams gael y cais.

Er bod Cymru ar y blaen o 8-7 doedd y cicio ddim wedi bod yn llwyddiant i Hook a cafodd ei eilyddio wrth i Stephen Jones ddod ar y cae am yr hanner awr olaf.

Munudau yn unig o'r ail hanner gafodd Nathan Sharpe a oedd yn ennill ei 100fed cap dros Awstralia.

Llwyddodd O'Connor efo cic gosb i roi mantais i Awstralia o 10-8 cyn llwyddo rhwng y pyst unwaith eto ac ymestyn eu mantais i 13-8.

Cafodd Barnes gic adlam i Awstralia i fynd ymhellach ymlaen 16-8.

Daeth Cymru yn ôl 16-11 gyda Stephen Jones yn llwyddo gyda chic gosb.

Funudau cyn diwedd y gêm daeth Awstralia yn agos at gael ail gais cyn i'r bêl gael ei tharo ymlaen.

Ond llwyddodd Ben McCalman gyda chais pum munud cyn diwedd y gêm ac fe wnaeth O'Connor fethu i drosi wrth i Awstralia fod ar y blaen 21-11.

Yn ogystal â'r cefnogwyr yn Seland Newydd mae rhai miloedd o gefnogwyr yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd ar gyfer gweld y gêm ar sgrin fawr.

Roedd yno 16,246, tipyn yn llai na'r 61,500 oedd yno ddydd Sadwrn ar gyfer y gêm yn erbyn Ffrainc.

Ond dywedodd rheolwyr y Stadiwm bod pobl eisiau dangos eu cefnogaeth i'r tîm.

Mae'r gêm yn adlais o'r hyn a ddigwyddodd yn 1987 pan lwyddodd Cymru i guro Awstralia am y trydydd safle ym Mhencampwriaeth Cwpan Rygbi'r Byd cyntaf a hynny yn Seland Newydd.

Tîm Cymru v Awstralia; Eden Park, Auckland; Dydd Gwener, Hydref 21 am 8:30am (amser Cymru)

Olwyr: - Leigh Halfpenny (Gleision); George North (Scarlets), Jonathan Davies (Scarlets), Jamie Roberts (Gleision), Shane Williams (Gweilch); James Hook (Perpignan), Mike Phillips (Bayonne);

Blaenwyr :- Gethin Jenkins (Gleision, capt), Huw Bennett (Gweilch), Paul James (Gweilch), Bradley Davies (Gleision), Luke Charteris (Dreigiau), Dan Lydiate (Dreigiau), Toby Faletau (Dreigiau), Ryan Jones (Gweilch);

Eilyddion: Lloyd Burns (Dreigiau), Ryan Bevington (Gweilch), Alun-Wyn Jones (Gweilch), Andy Powell (Sale Sharks), Lloyd Williams (Gleision), Stephen Jones (Scarlets), Scott Williams (Scarlets).