Gât: Enwi'r dyn fu farw

Mae Heddlu Gwent wedi enwi'r dyn fu farw ddydd Mercher pan gafodd ei ddal o dan gât yng Nghasnewydd.

Roedd Ronald Hayward yn 42 oed ac o Ferthyr Tudful.

Bu farw'r gyrrwr lori ar ôl damwain yn ymwneud a gât yng Nghasnewydd fore dydd Mercher.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gwent iddynt gael eu galw i Stryd Agincourt yng Nghrindau tua 5.10am ddydd Mercher.

Image copyright BBC news online
Image caption Safle'r ddamwain yng Nghasnewydd

"Bu'n rhaid symud gatiau trwm a bu digwyddiad a wnaeth arwain i farwolaeth," meddai'r llefarydd.

"Mae teulu'r dyn wedi cael gwybod ac mae swyddogion arbennig yr heddlu yn cynnig cymorth iddynt," meddai'r llefarydd.

Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth ambiwlans eu bod wedi eu galw yn dilyn adroddiadau bod lori wedi taro gât a bod dyn wedi ei ddal o dan y gât.

Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch hefyd yn cynnal ymchwiliad i'r digwyddiad.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.