Gwerthu hen simnai am £1,420

Y simnau i weld uwchben Stryd Yorke Wrecsam Image copyright bbc
Image caption Roedd yna 19 o fragdai yn Wrecsam ar un adeg

Mae simnai gwaith bragdy yn dyddio'n ôl i Oes Fictoria wedi ei werthu ar wefan ocsiwn eBay am £1,420.

Cafodd y simnai, sy'n adeilad rhestredig Gradd II, ei brynu gan gyn AS ac AC y dre John Marek 20 mlynedd yn ôl.

Roedd y perchnogion ar y pryd yn bygwth dymchwel yr adeilad.

Mae Mr Marek wedi bod yn ceisio trosglwyddo'r ofalaeth ond heb lwyddiant.

Felly penderfynodd roi'r adeilad ar werth gan ddweud y byddai'n rhoi'r arian yn cael ei roi i elusennau.

Does dim gwybodaeth hyd hyn yn hyn pwy sydd wedi prynu'r simnai sy'n 120 troedfedd (36m) o uchder.

Cafodd y simnai ei adeiladu ar Stryd Tuttle yn 1894 ac roedd yn rhan o fragdy Soames, oedd wedyn yn rhan o fragdy Wrexham Border.

Rhoddwyd y gorau i ddefnyddio'r simnai yn 1984 pan aeth y grŵp i berchnogaeth Marstons.

Dywed Dr Marek fod yr adeilad mewn cyflwr da.

Roedd yr yswiriant blynyddol yn costio tua £800 y flwyddyn i Dr Marek.

Yn yr 1860au roedd gan Wrecsam 19 o fragdai.