Carchar am fygwth gyda llifgadwyn

Llys y Goron Yr Wyddgrug Image copyright bbc
Image caption Llys y Goron Yr Wyddgrug

Cafodd dyn 51 oed wnaeth fygwth plismyn gyda llif gadwyn ei garcharu am wyth mis.

Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug fod Gavin Anthony Randles ar feddyginiaethau ac wedi bod yn yfed pan anfonwyd am gymorth yr heddlu.

Roedd Randles wedi bygwth lladd ei gymdogion gan ddefnyddio'r llif gadwyn.

Plediodd Randles o Moorland Avenue Wrecsam yn euog i achosi ffrwgwd ac ymddygiad bygythiol ar Fedi 9 ond dwedodd nad oedd yn cofio dim am y digwyddiad.

Clywodd y llys fod aelodau'r heddlu wedi cyrraedd, gan gynnwys swyddog oedd yn gallu defnyddio gwn taser.

Penderfynwyd fod y sefyllfa yn rhy beryglus i ddefnyddio gwn taser ac fe anfonwyd am heddlu arfog, a chafodd Randles ei arestio.

Dywedodd Catherine Jagger, ar ran yr amddiffyniad, nad oedd Randles wedi yfed diferyn o alcohol ers y digwyddiad.