Heddlu'r Gogledd i rwystro cyngerdd answyddogol

Hen adeilad Plas Pren Image copyright Other
Image caption Mae Mynydd Hiraethog yn safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Mae dros 2000 o bobl wedi dweud ar wefan eu bod yn bwriadu mynychu cyngerdd answyddogol ar Fynydd Hiraethog yn Sir Ddinbych ddydd Gwener.

Dywed Heddlu'r Gogledd na fyddant yn caniatáu'r cyngerdd, gan fygwth stopio ac archwilio ceir yn yr ardal, yn enwedig rhai yng nghyffiniau Plas Pren, rhyw saith milltir o dref Dinbych.

Yn ôl yr heddlu dyw perchnogion y tir heb roi caniatâd i'r safle gael ei ddefnyddio ar gyfer cyngerdd.

Ond ar dudalen ar wefan Facebook mae dros 2000 o bobl wedi dweud y byddan nhw'n mynd i'r cyngerdd.

Roedd y cyngerdd yn cael ei drafod ar wefan Facebook pan ychwanegwyd neges gan yr heddlu.

Cyhoeddwyd y byddant yn gweithredu i rwystro'r digwyddiad.

'Difrodi'r safle'

Yn ôl yr heddlu: "Rydym wedi ymgynghori gyda thirfeddianwyr ac nid ydynt wedi rhoi caniatâd i'r cyngerdd ddigwydd".

Ychwanegodd y neges fod y safle wedi ei amddiffyn fel un o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

"Mae rhagolygon y tywydd yn wael a byddai hynny ynghyd â nifer fawr o bobl yn troedio'r tir yn gallu difrodi'r safle yn ddifrifol," meddai neges yr heddlu.

Mae Swyddogion y Cyngor wedi gosod gorchymyn atal sŵn.

Gallai hynny olygu fod trefnwyr unrhyw ŵyl yn cael eu herlyn yn y llysoedd.

Dywed y trefnwyr fod y digwyddiad yn barti preifat.

Mewn cyfweliad â'r papur newydd lleol y Denbighshire Free Press, dywedodd y trefnwyr y byddant yn glanhau'r safle ar eu hôl.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.