Apêl wedi lladrad mewn siop fetio

Mae'r heddlu yn ymchwilio wedi lladrad mewn siop fetio nos Iau, pan ddygwyd swm o arian.

Digwyddodd y lladrad yn Vale Road, y Rhyl.

Roedd y lleidr yn gwisgo mwgwd, ond nid yw'r heddlu wedi datgelu a oedd yn arfog.

Mae'r heddlu yn awyddus i siarad â gyrrwr car bach, tebyg i Ford Fiesta, a drodd i mewn i Ffordd Millbank am 8.14pm.

Maen nhw'n dweud y byddai wedi gweld y lleidr, a oedd tua 5 troedfedd 10 modfedd, yn ei 20au cynnar fe gredir, oedd yn gwigo trowsus du a swmper du gyda hwd.