Tân wedi difrodi hen adeilad ysgol ym Mangor

Ysgol Glanadda, Bangor Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 00:30am ddydd Sadwrn

Mae Heddlu'r Gogledd a'r Gwasanaeth Tân yn ymchwilio i achos tân sydd wedi difrodi hen adeilad ysgol ym Mangor.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i safle uned addysgol Bryn Llwyd ar Ffordd Caernarfon am 00:30am ddydd Sadwrn.

Arferai'r adeilad fod yn gartref i Ysgol Glanadda.

Mae'r neuadd yno wedi ei difrodi'n sylweddol.

Nid yw achos y tân, a gynhaeodd dros nos, yn glir.

Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, cafodd ei ddiffodd erbyn 5:30am.

Dywedodd Tommy Rowlands o'r gwasanaeth tân fod y brif neuadd wedi'i difrodi'n sylweddol.

Mae contractwyr wedi bod ar y safle i sicrhau bod y cyflenwad trydan yn ddiogel.

Image caption Cafodd y brif neuadd ei difrodi'n sylweddol

Aeth pedair injan dân i'r safle, dwy o Fangor, un o Fiwmares ac un o Gaernarfon.

Dywedodd Eirian Roberts, sy'n byw gerllaw'r adeilad: "Mae hyn yn siom enfawr.

"Dyma le aeth fy nhaid, fy mam, ei brawd hi a'm mrawd i, i'r ysgol,

"Dwi'n credu bod yr adeilad yn rhestredig, gan iddo gael ei godi yn 1888, ac mae'r difrod i flaen yr adeilad yn ddrwg iawn".

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.