Trwodd i rownd gyntaf Cwpan FA

Andy Morrell Image copyright Other
Image caption Ar ôl y gêm cafodd rheolwr dros dro tîm pêl droed Wrecsam, Andy Morrell, ei benodi i'r swydd tan ddiwedd y tymor.

Wrecsam 2-1 Efrog

Casnewydd 4-3 Braintree Town

Mae Casnewydd a Wrecsam yn yr het ar gyfer rownd gyntaf Cwpan FA Lloegr ar ôl ennill yn y rownd ragbrofol olaf.

Paul Rodgers gafodd y bedwaredd i'r tîm cartre' ddau funud o'r diwedd, mewn gêm llawn goliau yng Nghasnewydd.

Gwobr Casnewydd yw gêm adref yn erbyn Yr Amwythig yn y rownd gyntaf.

Enillodd Wrecsam ar ôl i amddiffynnydd Efrog David McGurk sgorio i'w rhwyd ei hun yn hwyr yn y gêm.

Fe fydd Wrecsam oddi cartref yn erbyn Caergrawnt yn y rownd gyntaf.

Ar ôl y gêm yn erbyn Efrog cafodd rheolwr dros dro tîm pêl droed Wrecsam, Andy Morrell, ei benodi i'r swydd tan ddiwedd y tymor.

Roedd Morrell, 35 oed, wedi cael y swydd dros dro wedi i'r cyn-reolwr Dean Saunders adael Wrecsam i fod yn rheolwr Doncaster Rovers ym mis Medi.

Ers i Morrell gymryd yr awenau mae'r Dreigiau wedi ennill 19 o'r 24 pwynt posib yn Uwchgynghrair y Blue Square Bet.