Corff wrth ymyl beic modur ar drac

Mae dyn 26 oed wedi ei ddarganfod yn farw wrth ymyl beic modur ar drac seiclo yng Nghei Connah, sir y Fflint.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd bod y corff wedi ei ddarganfod ar y trac sy'n gyfochrog â Ffordd y Doc am 5:00am ddydd Sul.

Dywedodd swyddogion ei fod yn byw yn lleol ac nid yw ei farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.

Mae ei deulu a'r crwner wedi cael gwybod, ac mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.