Shane Williams i chwarae ei gêm olaf dros Gymru

Shane Williams Image copyright Getty Images
Image caption Shane Williams yn croesi am gais i Gymru yn eu gêm olaf yng Nghystadleuaeth Cwpan Rygbi'r Byd yn erbyn Awstralia.

Mae asgellwr Cymru, Shane Williams wedi cadarnhau mai'r gêm rhwng Cymru ac Awstralia yng Nghaerdydd ym mis Rhagfyr fydd ei gêm olaf dros ei wlad.

Roedd e eisoes wedi cyhoeddi y byddai'n ymddeol o rygbi rhyngwladol ar ôl Cwpan y Byd, ac mae'n dweud y bydd ei gêm olaf dros ei wlad yn achlysur trist iawn.

Mae'r asgellwr 34 oed wedi ennill 86 cap.

Fe fydd y gêm yn gyfle i Gymru geisio dial am golli yn eu gêm olaf yng Nghystadleuaeth Cwpan Rygbi'r Byd yn erbyn Awstralia.

Y tîm o Hemisffer y De orffennodd yn drydydd wrth i Gymru fod o dan bwysau am yr 80 munud mewn gêm nad oedd yn glasur nac yn dangos fflach nodweddiadol y Crysau Cochion yn ystod y bencampwriaeth.