Taclo tân mewn ysgol uwchradd yn Aberdâr

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i dân yn ysgol uwchradd yn Rhondda Cynon Tâf fore Llun.

Derbyniodd y gwasanaeth alwad am 3.31am i Ysgol Uwchradd Aberdâr.

Mae'n ymddangos fod y tân wedi dechrau y tu allan i'r adeiald.

Cafodd diffoddwyr o Aberdâr a Hirwaun eu galw i'r ysgol.

Fe gafodd peiriannau dŵr eu defnyddio er mwyn rheoli'r fflamau.

Defnyddiodd diffoddwyr offer anadlu a chamerâu arbennig.

Fe fydd yr ysgol ar agor fel arfer ddydd Llun.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.