Rhybudd rhag algae yn LLanelli

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn rhybuddio pobl i gymryd gofal rhag algae glaswyrdd ar Lwybr y Mileniwm yn Llanelli.

Cafwyd hyd i'r algae ym Mharc Dŵr y Sandy, Llanelli.

Mae arwyddion wedi eu gosod o amgylch y llyn yn son am y peryglon i bobl ac anifeiliaid.

Dywedodd llefarydd ar ran Asiantaeth yr Amgylchedd eu bod yn monitro'r sefyllfa.

Cafodd y rhybuddion eu gosod ddechrau'r mis.

Mae disgwyl i'r algae ddiflanu gyda newid yn y tywydd.

"Rhaid i'r algae beidio â bod yn bresennol mewn dau brawf yn olynol cyn dweud fod y dŵr yn ddiogel," meddai llefarydd ar ran yr Asiantaeth.

Mae'r algae yn cynhyrchu gwenwyn a all achosi brech ar y croen, cyfog, poenau yn stumog, twymyn a chur pen os caiff ei lyncu.

Caiff y llyn ei ddefnyddio gan bobl sy'n mynd am dro, ond nid yw'n cael ei ddefnyddio ar gyfer chwaraeon dŵr.

Mae'r llyn 16 acr wedi ei greu ar hen safle gwaith dur Duport ar gyrion Llwybr y Mileniwm.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.