Deifar o Gymru yn marw yn Scapa Flow

Daeth cadarnhad fod y deifar a fu farw yn dilyn digwyddiad yn Scapa Flow yn Orkney yn dod o Gymru.

Cafodd Stuart MacCormac, 53 oed, o Gaerdydd ei gludo gan hofrennydd i Ysbyty Balfour yn Kirkwall ddydd Sul ond bu farw yn ddiweddarach.

Y gred yw ei fod yn archwilio llongddrylliad o'r Almaen.

Dywed llefarydd ar ran Heddlu'r Gogledd fod adroddiad ynghylch amgylchiadau'r achos wedi ei gyflwyno i'r procuradur ffisgal.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.