Dim gemau Cymru i Alain Rolland

Alain Rolland Image copyright bbc
Image caption Ni fydd Rolland yn dyfarnu gemau Cymru yn 2012

Ni fydd y dyfarnwr a rhoddodd cerdyn coch i Sam Warburton yn y gêm Cwpan Rygbi'r Byd yn erbyn Ffrainc yn cymryd rhan yng ngemau Cymru yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2012.

Daeth y Gwyddel Alain Rolland, sydd â thad Ffrengig, yn amhoblogaidd iawn yng Nghymru pan anfonodd y capten o'r cae ar ôl 18 munud o'r gêm gynderfynol yn erbyn Ffrainc oherwydd iddo farnu'r tacl ar yr asgellwr Vincent Clerc yn un anghyfreithlon a pheryglus.

Cafodd y dyfarnwr ei feirniadu am ei benderfyniad cyflym i anfon Warburton o'r maes, er i gyfarwyddiadau'r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol nodi fod ganddo'r hawl i ddangos y cerdyn coch ar ôl tacl peryglus blaenasgellwr Cymru.

Er hynny, ni fydd Rolland yn ymweld â Chaerdydd y flwyddyn nesaf fel dyfarnwr, llimanwr nac fel y dyfarnwr fideo oddi ar y maes.

Ond bydd Ffrainc, a gollodd 8-9 i Seland Newydd yn rownd derfynol y bencampwriaeth, yn gorfod wynebu'r dyfarnwr o De Affrica a gafodd ei feirniadu am beidio â dyfarnu yn erbyn sawl tacl uchel yn ystod y gêm.

"Roedd {Craig} Joubert jest yn edrych arnom," meddai rhif 8 Ffrainc, Imanol Harinordoquy.

"Chwaraeodd Richie McCaw yr holl gêm ar ein hochr ni. Gwnaeth sawl peth drwg ond ddaru neb ddweud dim wrtho."

Joubert fydd yn dyfarnu pan fydd Cymru yn wynebu Ffrainc yng ngêm olaf y bencampwriaeth yn Stadiwm y Mileniwm ar Fawrth 17.

Straeon perthnasol