Caer o oes Napoleon wedi cael ei gwerthu

Ynys Thorn Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Mae Ynys Thorn yn rhan o Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro

Mae caer oddi ar arfordir Sir Benfro, oedd ar un adeg yn un o westai mwyaf anghysbell Cymru, wedi'i gwerthu.

Mae Ynys Thorn, ger Aberdaugleddau, wedi'i phrynu gan gwmni sy'n berchen ar safleoedd hanesyddol eraill, gan gynnwys Ogofeydd Chislehurst yn Swydd Caint.

Mae'r perchnogion newydd, Kent Mushrooms, yn bwriadu "ystyried posibiliadau masnachol" yr ynys yn y dyfodol.

Y gred yw bod y gaer wedi'i gwerthu am lawer llai na'r pris gofynnol o £750,000.

Cafodd yr ynys ei rhoi ar y farchnad wedi i'r cyn berchnogion, von Essen, fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

Ers 1947, mae'r adeilad wedi cael ei ddefnyddio fel gwesty ac roedd y prynwyr yn 2001, von Essen, am droi'r adeilad Rhestredig Gradd II yn westy pum seren, gyda char cebl yn cludo'r gwesteion y chwarter milltir i'r tir mawr.

Llynges Ffrengig

Dywedodd cwmni Christie Finance, sy'n gweithredu ar ran y gweinyddwyr, eu bod wedi derbyn 12 cynnig am y safle.

Yn ôl cyfarwyddwr Christie Finance, Simon Stevens: "Mae Ynys Thorn yn encil anhygoel sydd wedi denu diddordeb llawer o brynwyr ym Mhrydain a dros y dŵr."

Adeiladwyd yr amddiffynfa ar Ynys Thorn er mwyn atal y Llynges Ffrengig rhag ymosod ar Aberdaugleddau yng nghyfnod Napoleon.

Cafodd ei hadeiladu yn 1854 ar yr ynys ddwy erw, ynghyd â sawl un arall, er mwyn amddiffyn porthladd brenhinol Aberdaugleddau.

Dyma un o'r caerau olaf ym Mhrydain i gael ei hadeiladu i atal llongau pren rhag cyrraedd y tir mawr.

Roedd ganddi naw gwn llwytho a lle i 100 o filwyr, er na fu erioed reswm i'w defnyddio.

Mae 'na hefyd olion sawl llongddrylliad o amgylch yr ynys, gan gynnwys llong y Loch Shiel, oedd yn cludo miloedd o gasgenni o chwisgi.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.