Dadorchuddio cofeb rhyfel

Cofeb ym Mharc Ynysangharad Image copyright Other
Image caption Mae yna ddwy gofeb rhyfel eisoes ym Mharc Ynysangharad

Mae dwy wal goffa wedi cael eu dadorchuddio ym Mhontypridd ddydd Gwener er cof am y rhai a fu farw mewn rhyfeloedd ers 1914.

Ar y ddwy wal ym Mharc Ynysangharad mae cyfanswm o 1,319 o enwau.

Dywedodd llefarydd fod yr enwau wedi eu casglu drwy ddefnyddio cofnodion swyddogol a gwybodaeth leol.

Bu farw 821 yn y Rhyfel Byd cyntaf a 491 yn yr Ail Ryfel Byd.

'Emosiynol'

Bu farw pedwar yn ystod Rhyfel y Falklands, ac un yr un yn y gwrthdaro neu ryfel ym Mhalestina, Korea a Suez.

Cyn y dadorchuddio dywedodd y Cynghorydd Sylvia Jones, Maer Rhondda Cynon Taf: "Bydd y seremoni yn un emosiynol wrth i ni roi teyrnged i'r rhai dewr fu farw mewn dau ryfel byd a rhyfeloedd eraill."

Mae'r cyngor sir wedi bod yn cydweithio gyda Chyngor Tre Pontypridd a'r Lleng Brydeinig wrth lunio'r rhestr enwau a hefyd wrth gasglu arian ar gyfer y cofebion.

"Mae'n bwysig nad yw'r rhai wnaeth aberthu cymaint yn cael eu hanghofio a bydd y gofeb yn helpu atgyfnerthu statws Parc Ynysangharad," meddai'r cynghorydd.