Cwest: Marwolaeth ddamweiniol

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi ymddiheuro i deulu dynes 84 a fu farw ar ôl cymhlethdodau wedi llawdriniaeth i'r galon.

Cafodd rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol ei chofnodi ar Gladys Marion John, 84 oed o Arberth a fu farw 19 wythnos ar ôl cael llawdriniaeth.

Roedd ei theulu wedi beirniadu'r gofal a roddwyd mewn ysbytai yng ngorllewin Cymru.

Dywedodd Iain Robertson-Steel, cyfarwyddwr Gofal Clinigol yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd, y byddai'r Bwrdd "yn arolygu'r achos yng ngoleuni'r cwest er mwyn sicrhau fod unrhyw wersi perthnasol yn cael eu dysgu".

Clywodd y cwest yn Aberdaugleddau ddydd Gwener fod Mrs John wedi cael llawdriniaeth yn Ysbyty Treforys ym mis Ionawr 2010.

Cafodd ei disgrifio fel menyw "annibynnol a chraff" cyn y llawdriniaeth i osod falf newydd.

Ond fe ddatblygodd haint a bu hefyd yn dioddef o waedu mewnol.

Ambiwlans

Tra yn Ysbyty Treforys fe dorrodd asgwrn y forddwyd.

Bu farw yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd, ar Fai 17, 2010.

Yn ystod y cwest fe wnaeth ei merch, Megan Busby, cyn-nyrs, feirniadu safon y gofal yn Ysbyty Llwynhelyg.

Roedd hi hefyd yn dweud i'w mam gael ei symud 17 o weithiau mewn 19 wythnos, a bod cyfathrebu yn "ofnadwy".

Cafodd ei symud rhwng Llwynhelyg, cartref gofal yn Ninbych-y-Pysgod, Ysbyty Glangwili ac Ysbyty Treforys.

Dywedodd ar un adeg, ym mis Chwefror 2010 fod ei mam yn cael ei symud o Lwynhelyg i Dreforys wrth i'w chyflwr waethygu.

Ond ar ôl cyrraedd Caerfyrddin bu'n rhaid i'r ambiwlans droi'n ôl oherwydd nad oedd yna unrhyw welyau ar gael yn Nhreforys.

Post mortem

Honnodd Mrs Busby fod ei mam wedi cael ei symud nifer o weithiau, ac ar adegau heb yn wybod i'r teulu.

Ar ei thystysgrif marwolaeth, yr achos a roddwyd oedd niwmonia.

Cafodd hynny ei herio gan y teulu a gofynnwyd am bost mortem gan y crwner.

Yn y cwest cofnodwyd iddi farw o ganlyniad i waedu yn y man lle cafodd lawdriniaeth ar yr aorta.

Doedd yna ddim arwydd o niwmonia.

Wrth gofnodi rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol dywedodd y crwner, Mark Layton, fod yr achos yn codi pryder ynglŷn â'r cyfathrebu rhwng ysbytai Llwynhelyg a Threforys a'i fod yn sicr y "byddai gwersi yn cael eu dysgu".