Gwesty adnabyddus yn nwylo'r gweinyddwyr

Gwesty Llangoed Hall Image copyright Other
Image caption Gwesty Llangoed Hall, cyn-gartref Laura Ashley

Mae un o westai mwyaf adnabyddus Cymru, Gwesty Llangoed Hall, wedi ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr.

Cafodd cwmni PricewaterhouseCoopers eu penodi i ymgymryd â'r gwaith ar Dachwedd 1.

Cwmnïau Llangoed Hall Hotel a Llangoed Properties oedd yn berchen y gwesty yn Llyswen ger Aberhonddu.

Dywedodd Karen Dukes un o bartneriaid PricewaterhouseCoopers: "Mae gwesty Llangoed yn westy unigryw sydd wedi ennill gwobrwyon ac sydd ag enw da am ansawdd a safon.

"Mae'r hinsawdd economaidd bresennol yn golygu fod y diwydiant yn wynebu her ac mae'r gwesty wedi ei chael hi'n anodd dros y ddwy flynedd diwethaf."

Dywedodd mai'r flaenoriaeth yw arolygu'r holl opsiynau sydd ar gael i'r cwmni.

Maen nhw'n edrych am rywun i brynu'r busnes ond yn y cyfamser bydd y gwesty yn parhau i fasnachu.

Roedd y gwesty ar un adeg yn eiddo i deulu'r gynllunwraig ffasiwn Laura Ashely.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.