Cymru 0 Seland Newydd 36

Sika Manu Image copyright Other
Image caption Sika Manu yn sgorio cais i Seland Newydd yn erbyn Cymru

Colli'n drwm oedd hanes tîm rygbi 13 Cymru yn erbyn Seland Newydd yng nghystadleuaeth y Pedair Gwlad ddydd Sadwrn.

Un dilyn eu crasfa gan Loegr yr wythnos diwethaf y disgwyl oedd i Gymru ganolbwyntio ar elfennau sylfaenol eu gêm yn erbyn y crysau duon.

Ond methodd tîm Iestyn Harris wneud llawer o argraff yn yr ornest a gafodd ei gynnal yn Wembley.

Roedd Seland Newydd yn llawer rhy gryf i Gymru ac fe sgorion nhw saith cais heb ymateb gan y crysau cochion.

Awstralia enillodd y gêm agoriadol yn erbyn Seland Newydd 26-12.

Collodd Cymru i Loegr 42-4 ddydd Sadwrn diwethaf.

Enillodd Cymru'r hawl i chwarae ym Mhencampwriaeth y 4 Gwlad drwy ennill Cwpan Ewrop yn 2010 gan guro Ffrainc 12-11 yn Albi.

Seland Newydd (26) 36

Ceisiau:Nightingale, Locke,Manu 2, Beale 2, Fien.

Goliau: Marshall 4

Cymru (0) 0

Cymru: Jones, Kear, Webster, Roets, R. Williams, Briers, White, J. James, Budworth, Dudson, Frizell, Beasley, Flower.

Eilyddion: Watson;Bracek; Divorty; Kopczak

Seland Newydd: Locke, Beale, Brown, Glenn, Nightingale, Marshall, Foran, McKendry, Leuluai, Matulino, Manu, Blair, Smith.

Eilyddion: Fien; Waerea-Hargreaves; Moimoi; Taylor;

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.