Y Gweilch 9 Scarlets 9

Y Gweilch a'r Scarlets Image copyright Other
Image caption Bu rhaid i Stephen Jones treulio amser yn y cwt cywilydd yn dilyn y dacl hon ar Tommy Bowe

Mae'r Gweilch yn dal ar frig cynghrair Pro12 yn dilyn eu gêm gyfartal yn erbyn Y Scarlets yn Stadiwm Liberty nos Sadwrn.

Yr unig sgorwyr mewn gêm heb yr un cais oedd maswyr y ddau dîm.

Yr unig sgôr yn ystod yr hanner cyntaf oed cic gosb gan Dan Biggar i'r Gweilch tra bu rhaid i faswr y Scarlets, Stephen Jones, treulio amser yn y cwt cywilydd yn dilyn ei dacl anghyfreithlon ar Tommy Bowe.

Chwaraeodd pum aelod o garfan Cwpan y Byd Cymru i'r Gweilch ond dim ond Alun Wyn Jones ddechreuodd y gêm.

Mantais

Daeth Huw Bennett, Ryan Bevington, Ryan Jones a Shane Williams oddi ar y fainc.

Yr aelodau o garfan Cymru a chwaraeodd i'r Scarlets oedd Scott Williams, Stephen Jones a Tai Knoyle a daeth yr eilyddion, Ken Owens, Jonathan Davies a George North i'r cae cyn diwedd y gêm.

Llwyddodd Jones gyda chic gosb i'r Scarlets yn gynnar yn yr ail hanner cyn i Biggar gicio dwy gic gosb arall i ymestyn mantais y Gweilch i chwe phwynt.

Wedi i'r cefnwr Daniel Evans a Jones methu gyda dwy gic gosb i'r Scarlets llwyddodd Jones i haneru'r fantais i dri phwynt ar ôl 59 munud.

Ac ar ôl i George North fylchu amddiffyn y Gweilch cosbwyd y tîm cartref am gamsefyll a llwyddodd Jones gyda'i gic gosb i unioni'r sgôr gyda thair munud yn weddill

Bu'n rhaid canslo'r gêm gynghrair Pro12 rhwng y Dreigiau a'r Gleision nos Wener oherwydd y tywydd.

Roedd dilyw ar gae Rodney Parade.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.