Heddlu'n apelio wedi marwolaeth

Mae gyrrwr car 17 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus wedi i ddyn oedd yn y car gydag ef farw yn dilyn gwrthdrawiad â char arall fore Sul.

Cafodd Heddlu Gwent eu galw i Commercial Street, Risga, ger Casnewydd am 1.37am ddydd Sul.

Dywed yr heddlu fod car Suzuki yn cludo chwech o ddynion wedi bod mewn gwrthdrawiad â char oedd wedi ei barcio.

Cafodd un o'r dynion ei gludo i Ysbyty Frenhinol Gwent lle bu farw'n ddiweddarach.

Ysbyty

Dywed yr heddlu fod y dynion eraill wedi dioddef mân anafiadau.

Mae dau o'r dynion yn dal yn yr ysbyty.

Mae teulu'r dyn fu farw wedi cael eu hysbysu am ei farwolaeth .

Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw dystion i'w ffonio ar 101.

Mae teulu'r dyn fu farw wedi cael eu hysbysu am ei farwolaeth.

Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw dystion i'w ffonio ar 101.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.