Morgan yw pencampwr snwcer hŷn y byd

Darren Morgan Image copyright AFP
Image caption Cyrrhaeddodd Morgan rownd gynderfynol Pencampwriaeth y Byd yn 1994

Mae'r Cymro Darren Morgan wedi ennill Pencampwriaeth Snwcer Hŷn y Byd yn dilyn buddugoliaeth dros Steve Davis.

Roedd y Cymro 45 oed yn fuddugol o 2-1 yn rownd derfynol y gystadleuaeth yn Peterborough i gipio'r wobr gyntaf o £18,000.

Dyna oedd yr unig ffrâm i Morgan ei cholli drwy'r gystadleuaeth, ac ar y ffordd i'r rownd derfynol fe gurodd Cliff Thorburn a Jimmy White.

Dywedodd Morgan: "Mae'n rhaid bod hyn yn un o eiliadau gorau fy ngyrfa."

Enillodd Morgan chwech o gemau yn y gystadleuaeth gan iddo hefyd orfod chwarae dwy rownd ragbrofol.

Ymddeolodd Morgan o snwcer proffesiynol bedair blynedd yn ôl, ond er gwaetha'r fuddugoliaeth yma mae'n dweud ei bod yn annhebygol y bydd yn dychwelyd i'r gam.

"Mae'n amhosib, mae fy mywyd yn rhy brysur nawr," meddai.

"Petai rhywun yn fy ngosod yn syth i'r 32 uchaf, fe fyddwn i'n ystyried y peth, ond fe fyddai'n rhy anodd i mi gyrraedd yno.

"Ond petawn i'n cael cynnig cystadlu'n syth i mewn i gystadlaethau proffesiynol fe fyddai gen i ddiddordeb yn sicr."