Rhagor o goed i atal llifogydd

Llifogydd ym Mangor-is-y-coed Image copyright bbc
Image caption Mae un o bob chwe eiddo mewn perygl o lifogydd

Gall plannu rhagor o goedwigaeth helpu amddiffyn dros 375,000 o eiddo yng Nghymru rhag llifogydd, yn ôl arbenigwyr yn y maes.

Dyma'r neges y bydd aelodau o'r sector coedwigaeth yn rhannu gyda gwleidyddion wrth iddynt gyflwyno adroddiad newydd gan FUTUREforest Cymru.

Byddent yn pwysleisio'r pwysigrwydd i goedwigwyr ddechrau cynllunio'n ddiymdroi os yw coedwigoedd Cymru am wrthsefyll effeithiau'r tywydd mwy eithafol yn sgil newidiadau yn yr hinsawdd.

Mae Forest Research yng Nghymru ar hyn o bryd yn edrych ar sut gall peirianneg wyrdd, fel plannu coed torlannol a chreu argaeau mewn gweddillion coed, helpu i leihau'r risg o lifogydd yng Nghymru.

Yn ôl ffigurau diweddaraf Asiantaeth Amgylchedd Cymru, gall llifogydd effeithio ar un o bob chwe eiddo yng Nghymru.

"Nid yw'r broblem hon am ddiflannu a gall dulliau peirianneg wyrdd o reoli llifogydd gynnig technegau rhad, effeithlon a chynaliadwy o wella ein hamddiffynfeydd yn erbyn llifogydd," meddai rheolwr prosiect FUTUREforest Cymru, Dr Helen Cariss.

"Mae coedwigoedd a choed hefyd yn gwella ansawdd dŵr drwy leihau erydu a thrwy hidlo llygryddion a gwaddodion."

Ond yr her yw sicrhau bydd coedwigoedd Cymru â'r gallu i ffynnu wrth i wlybaniaeth a'r tymheredd godi yn ystod y gaeaf a'r haf erbyn y 2050au.

"Mewn amodau o'r fath, bydd mwy o sychder a llifogydd," meddai Dr Cariss.

Image copyright Other
Image caption Mae Llywodraeth Cymru wedi gaddo creu 100,000 hectar o goedwigoedd ychwanegol erbyn 2030

"Bydd y newidiadau hyn ym mhatrymau'r tywydd hefyd yn cynyddu'r risg o blâu ac afiechyd fydd yn bygwth coed brodorol a'r rhai nad ydynt yn frodorol gan beri bygythiad posibl i'n bioamrywiaeth a'r pren rydym yn ei gynhyrchu.

"Fodd bynnag, o ganlyniad i waith FUTUREforest, rydym yn ymwybodol o'r bygythiadau o'n blaenau gan ein bod wedi gweld rhai o'r effeithiau ar ranbarthau eraill yn Ewrop sydd eisoes yn gorfod ymdopi â chanlyniadau'r newid yn yr hinsawdd."

Lluniwyd y ddogfen gan brosiect INTERREG IVC Comisiwn Coedwigaeth Cymru gyda chymorth Llywodraeth Cymru.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'w nod o greu 100,000 hectar yn ychwanegol o goedwigoedd erbyn 2030 drwy Glastir," ychwanegodd Dr Cariss.

"Fodd bynnag, nid oes amheuaeth y bydd coetiroedd a choedwigoedd o dan bwysau cynyddol yn sgil y newid yn yr hinsawdd."

Cynhelir digwyddiad 'Y Goedwigaeth, y Dyfodol a pharatoi ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd' yn y Senedd ar Dachwedd 9.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.