Cofeb newydd i Orig Williams yn cael ei dadorchuddio

Cofeb Orig Williams Image copyright Other
Image caption Cyngor Cymunedol Ysbyty Ifan drefnodd y digwyddiad

Dwy flynedd yn union wedi ei farwolaeth mae cofeb i'r reslwr Orig Williams wedi cael ei dadorchuddio ym mhentref Ysbyty Ifan yn Nyffryn Conwy.

Ei ferch, y gantores a'r actores Tara Bethan, oedd yn dadorchuddio'r gofeb ddydd Sadwrn ar y tŷ lle ganwyd y reslwr.

Dywedodd ei bod yn ddiwrnod emosiynol.

"Roedd Ysbyty Ifan yn agos at galon fy nhad ac mae'n ffeind bod pobl y pentre am dalu teyrnged iddo fo," meddai.

"Mae'n fraint 'mod i a Mam yn cael bod yn rhan o'r seremoni.

'Ar y map'

"Mae'n neis cofio Dad gyda'n holl ffrindiau a theulu a gwneud rhywbeth fydd yn codi ysbryd pawb."

Cyngor Cymunedol Ysbyty Ifan oedd wedi trefnu'r digwyddiad.

Dywedodd Eirian Roberts, clerc y cyngor: "Rydyn ni'n gwneud hyn oherwydd mai hogyn o'r ardal oedd Orig.

"Wnaeth o byth anghofio'i wreiddiau ac mae 'di rhoi Ysbyty Ifan ar y map."

Image copyright Other
Image caption Daeth yn enwog yng Nghymru a thu hwnt fel El Bandito

Fe anwyd Orig yn 1931 a dysgodd sut i focsio pan oedd yn fachgen 10 oed.

Roedd wastad wedi bod yn hoff o bêl-droed a chwaraeodd yn broffesiynol i Oldham Athletic, Shrewsbury Town a sawl tîm yng ngogledd Cymru.

Ond nid anghofiodd y sgiliau reslo a bocsio ddysgodd tra'n aelod o'r Llu Awyr a chafodd yrfa lwyddiannus fel reslwr. Teithiodd y byd a chafodd yr enw El Bandito pan gyrhaeddodd America.

Daeth yn ôl i Gymru fel hyrwyddwr bocsio, gan ddylanwadu ar yrfa Randolph Turpin, un o bencampwyr pwysau canol y byd.

Roedd yn ysgrifennu colofn wythnosol i'r Cymro ac wedyn y Daily Post.

Yn 1985 cyhoeddodd ei hunangofiant, Cario'r Ddraig.

Bu farw yn 78 oed ar Tachwedd 12, 2009.

Straeon perthnasol