'Caniatáu trwydded pwerdy'

Pwerdy Penfro Image copyright Other
Image caption Argraff artist o'r pwerdy arfaethedig ym Mhenfro

Mae ymgyrchwyr wedi honni bod pwerdy nwy anferth ym Mhenfro wedi cael trwydded.

Yn ôl Cyfeillion y Ddaear Cymru, bydd gorsaf RWE nPower ym Mhenfro yn gwastraffu gwres ac yn niweidio bywyd gwyllt yn y môr.

Ddydd Iau y bydd cyhoeddiad swyddogol am y drwydded ar gyfer yr orsaf fydd yn cyflenwi ynni i hyd at dair miliwn o gartrefi.

Roedd Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru wedi dweud y bydden nhw'n gwneud asesiad trylwyr o'r cynlluniau cyn penderfyniad.

Mae gwaith codi'r orsaf wedi bod ers dwy flynedd ac mae disgwyl iddi gael ei chwblhau yn 2012.

Cafodd caniatâd cynllunio ei roi gan Lywodraeth y DU yn 2009.

'Dinistriol'

Mae Cyfeillion y Ddaear wedi dadlau y gallai gael ei defnyddio i ddarparu ynni i ddwy derfynell LNG gerllaw.

Dywedodd cyfarwyddwr y mudiad, Gareth Clubb: "Bydd yr orsaf yn cael effaith ddinistriol ar un o safleoedd bywyd gwyllt pwysicaf Ewrop a bydd yn defnyddio technoleg eilradd ac yn taflu'r hyn sy'n cyfateb i 40% o alw trydan Cymru i ffwrdd."

Ym mis Mehefin dywedodd yr asiantaeth y byddai'n debygol o ganiatáu trwydded amgylcheddol.

Dywedodd ar y pryd ei fod wedi cynnal asesiad trylwyr ac wedi argymell safonau llym.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.