Achosi marwolaeth: Cyhuddo gyrrwr

Mae dyn 29 oed wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth milwr drwy yrru'n ddiofal.

Roedd Jonathan Gouldsmith, 24 oed o Gas-lai ger Hwlffordd wedi cael caniatâd i fod yn absennol o'r Corfflu'r Peirianyddion Brenhinol pan ddigwyddodd y ddamwain yn Llanelli yn oriau mân bore Sul, Ebrill 3.

Fe fydd y gyrrwr gerbron Ynadon Llanelli ar Ragfyr 8.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.