Wrecsam: Cytundeb o'r diwedd

Y Cae Ras Image copyright BBC news grab
Image caption Daeth cytundeb i brynu Clwb Pêl-droed Wrecsam ym mis Medi

Mae perchnogion Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi dweud eu bod wedi cyrraedd cytundeb i drosglwyddo'r awenau i Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam.

Yn gynharach yn yr wythnos roedd pryder fod y ddêl o dan fygythiad oherwydd materion cyfreithiol.

Roedd y pryderon oherwydd amodau gafodd eu gosod ar y perchnogion presennol gan Gymdeithas Bêl-droed Lloegr (FA).

Ond brynhawn Gwener roedd datganiad ar wefan swyddogol y clwb yn dweud: "Mae'r cyfarwyddwyr ac Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam yn falch o gyhoeddi bod y materion oedd angen eu datrys rhwng y ddwy ochr bellach wedi eu setlo a bod cytundeb ar bopeth.

"Bydd cynnig ar y cyd a luniwyd gan ein cyfreithwyr yn cael ei gyflwyno i'r FA ar gyfer eu cymeradwyaeth derfynol, ac ar sail trafodaethau blaenorol gyda'r FA rydym yn gobeithio y bydd y cynnig yn dderbyniol.

"Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn ddechrau cyfnod newydd fydd yn dod â sefydlogrwydd i'r clwb ac yn rhoi'r momentwm i ni fedru ennill dyrchafiad y tymor yma yn ôl i'r Gynghrair Bêl-droed."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.