Bangor yn curo'r Seintiau

Uwchgyngrhair Cymru Image copyright Not Specified

Mae'n dynn ar y brig yn Uwchgynghrair Cymru yn dilyn chwip o gêm yng Nghroesoswallt brynhawn Sul.

Y Seintiau Newydd, oedd bedwar pwynt ar y blaen, oedd yn croesawu'r pencampwyr Bangor, gyda'r ymwelwyr yn fuddugol mewn gornest a welodd saith o goliau.

Wedi deugain munud distaw, sgoriodd y ddau dîm o fewn munud i'w gilydd i'w gwneud hi'n 1-1 ar yr egwyl.

Ond yna daeth goliau Mark Smyth a Kyle Wilson i roi Bangor 3-1 ar y blaen cyn i Chris Marriott ymateb.

Cic o'r smotyn gan Dave Morley brofodd yn bwysig i Fangor ac er i Tom Roberts sgorio eto'n hwyr i'r Seintiau, fe ddaliodd Bangor eu gafael ar y triphwynt i gau'r bwlch ar y brig i bwynt yn unig.

Yn gynharach yn y penwythnos, roedd Llanelli wedi closio hefyd gyda buddugoliaeth yn y Drenewydd, ac roedd sioc wrth i'r tîm ar y gwaelod, Caerfyrddin, gael gêm gyfartal yn erbyn Castell-nedd.

Canlyniadau

Nos Wener

Bala 1-1 Prestatyn

Caerfyrddin 2-2 Castell-nedd

Port Talbot 0- 4 Aberystwyth

Dydd Sadwrn

Y Drenewydd 0-2 Llanelli

Dydd Sul

Airbus 3-1 Lido Afan

Seintiau Newydd 3-4 Bangor

Tabl Uwchgynghrair Corbett Sports:

Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1.Y Seintiau Newydd 16 +20 36
2. Bangor 16 +13 35
3. Llanelli 16 +22 33
4. Castell-nedd 16 +14 29
5. Bala 16 +9 29
6. Prestatyn 16 +2 21
-----------------------------------------------------------------------------------------
7. Port Talbot 16 -8 18
8. Airbus UK Brychdyn 16 -6 16
9. Aberystwyth 15 -10 13
10. Y Drenewydd 16 -22 13
11. Lido Afan 15 -14 11
12. Caerfyrddin 16 -20 10

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.