Cwpan FA: Caergrawnt 2-2 Wrecsam

FA Cup Image copyright Not Specified

Mae Wrecsam yn yr het ar gyfer ail rownd Cwpan FA Lloegr, ond fe fydd yn rhaid iddyn nhw chwarae Caergrawnt ar y Cae Ras ar ôl gêm gyfartal oddi cartref nos Wener.

Roedd Wrecsam ar y blaen 1-0 ar yr egwyl wedi gôl eu rheolwr- chwaraewr Andy Morrell wedi 20 munud.

Coulson ddaeth â'r tîm cartref yn gyfartal wedi 53 munud, cyn i Morrell adfer y fantais wedi 60 munud.

Ond parhaodd Caergrawnt i bwyso, ac ar ddwy funud o amser ychwanegol fe fethodd golwr Wrecsam ddal ei afael ar groesiad a manteisiodd Coulson i sicrhau gêm gyfartal.