Adfywiad Cymru'n parhau

Gareth Bale Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Y gôl gynta: Gareth Bale

Cymru 4 Norwy 1

Mae'r gyfres o fuddugoliaethau o dan Gary Speed wedi parhau wrth i Gareth Bale, Craig Bellamy a Sam Vokes rwydo yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Norwy.

Gareth Bale sgoriodd gynta dim ond ar ôl 11 munud.

Bum munud yn ddiweddarach amlygodd Craig Bellamy ei hun wrth droelli'r bêl yn bert i gefn y rhwyd.

Yn anffodus, roedd llithriad Wayne Hennessey yn golygu gôl hawdd i Erik Huseklepp ond sgoriodd Sam Vokes ddwywaith o fewn dwy funud yn hwyr yn y gêm.

Bygwth

Dywedodd y rheolwr, Gary Speed, fod y perfformiad yn dangos y gallai Cymru fygwth unrhyw dîm.

"Fe ildion ni gôl hawdd cyn dangos digon o gymeriad a sgorio dwy gôl wych.

"Yn sicr, hwn yw'r perfformiad gorau ers i mi ddechrau'r swydd. Roedd yn dda iawn.

"Mae Norwy'n dîm da ac fe lwyddon nhw i achosi problemau."

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod Cymru wedi ennill tair gêm yn olynol am y tro cynta ers 2008.