4 Gwlad 2011: Cymru 14-56 Awstralia

Darius Boyd Image copyright AFP
Image caption Cefnwr Awstralia Darius Boyd gafodd ei ddewis yn chwaraewr gorau'r gêm

Er gwaethaf ymdrech arwrwol gan Gymru ym Mhencampwriaeth y 4 Gwlad, colli wnaeth y tîm rygbi 13 i Awstralia.

Hon oedd gêm olaf Lee Briers i Gymru, ac er iddyn nhw fod ar y blaen am gyfnod ar Y Cae Ras yn Wrecsam, Awstralia enillodd yn y diwedd o 56-14.

Yn wir roedd Cymru ar y blaen o 8-6 dau funud cyn yr egwyl wrth i Briers greu dau gais i Rhys Williams ac Elliot Kear.

Yna fe ddeffrodd Awstralia gan sgorio dau gais gan Cooper Cronk.

Wedi'r egwyl, daeth saith cais arall i'r Kangaroos wrth iddyn nhw ddangos pam eu bod eisoes wedi ennill eu lle yn y rownd derfynol i wynebu Lloegr.

Trosodd Johnathon Thurston wyth o'r ceisiau, gan gynnwys un ei hun, i fod y pumed chwaraewr i gyrraedd 200 o bwyntiau i Awstralia.

Ond roedd sioc ar y gweill pan fanteisiodd Cymru ar ddechrau araf gan yr ymwelwyr gyda dau gais yn y 13 munud agoriadol.

Roedd dau gais cyntaf Awstralia yn ddadleuol. Y dyfarnwr fideo wnaeth ganiatau'r cyntaf er fod amheuaeth os oedd Cameron Smith wedi cyrraedd y llinell gais.

Roedd amheuaeth hefyd fod un bas wedi mynd ymlaen cyn i Cronk sgorio'r ail i roi Awstralia ar y blaen am y tro cyntaf.

Bydd creadigrwydd Briers i Gymru wedi dal sylw Lloegr wrth iddyn nhw baratoi i herio Awstralia yn y rownd derfynol yn Elland Road, Leeds, ddydd Sadwrn.

Straeon perthnasol